Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/43

Gwirwyd y dudalen hon

amryw yn ceisio amdano; ond Capten Trefor a’i cafodd. Sarah, fedrwch chi ddweud faint o'r furniture yma a gafwyd fel anrhegion? a phaham? Am mai fi a ddisgyfrodd y plwm mawr ym Mhwll y Gwynt, ac am i mi, drwy fy nghyfrwystra, gymryd takenote yn ddistaw bach a'm gwneud fy hun yn gapten ar y gwaith. Meddyliai pawb ei fod yn ddarganfyddiad ardderchog. Ond ofnwn i o'r dechrau mai troi allan yn dwyllodrus a wnâi, ond cedwais hynny i mi fy hun, a gobeithiwn y gorau. Yr oeddwn yn adnabod Mr. Fox, o Lunden, ers blynyddoedd—mi wyddwn hyd ei gydwybod a'i fod yn gwybod yn dda sut i weithio'r oracl. Mi ddropies lein iddo, ar iddo ddwad i lawr. Yr oedd Mr. Fox yma yn union, heb golli amser, fel dyn am fusnes. Cymerais ef i weld Pwll y Gwynt. Bu agos iddo ffeintio pan welodd yr olwg,' ac oni bai fod ei galon fel maen isaf y felin, buasai'n crio fel plentyn. Yr oedd o wedi darn wirioni, ac yn gweiddi ac yn neidio fel ffwl. Mor falch a llawen oedd o, fel y gallasai, mi gymra fy llw, fy nghario ar ei gefn am ddeng milltir! Gwyddwn i o'r gorau pa fath ddyn oedd genni i ymwneud ag ef, ond ni wyddai ef ddim amdanaf fi. Yr oedd wedi cael allan yn yr hotel cyn i ni gychwyn i weld Pwll y Gwynt fy mod yn Fethodist, ac ni wyddai yn iawn sut i siarad â mi. y dechrau yr oedd yn wyliadwrus ryfeddol pa beth a ddywedai. Mr. Fox oedd ei enw, ac yr oedd yn ateb i'w enw i'r dim. Yr oedd yn grefyddwr mawr yn ei ffordd ei hun y diwrnod hwnnw, ac ar ôl bod yn gweld Pwll y Gwynt, pan oeddem yn cael cinio, ar ôl iddo ofyn bendith, holodd gryn lawer am hanes crefydd yng Nghymru, a chymerodd gryn lawer o drafferth i ddangos mai yr un pethau oedd y Scotch Presbyterians â'r Methodistiaid Calfinaidd. Gwyddwn o'r gorau mai yr un peth oedd o a minnau, ac ebe fi wrtho, Mr. Fox, nid dyna'r pwnc heddiw. Yr wyf yn gwybod amdanoch chwi ers blynyddoedd, ond ni wyddoch chwi ddim amdanaf i. Mi wn, pan fydd gwaith mwyn yn y cwestiwn, na chaiff