i fynd ymlaen, ac i fod yn esgus am bob rhwystr ac oediad. Cyfaill mawr fu'r dŵr i Mr. Fox a minnau. Fe foddwyd ambell fil o bunnau yn y dŵr. Fe ddarfu i ni newid y machinery deirgwaith, er mwyn cyfarfod â dymuniadau ein cyfaill ffyddlon Mr. Dŵr. Bob tro y ceid machinery newydd yr oedd hynny yn gwacáu cryn lawer ar bocedau'r cwmpeini, ac yn rhoi tipyn bach ym mhocedau Mr. Fox a minnau, oblegid yr oedd y cwmpeini yn ymddiried i farn Mr. Fox a minnau fel prynwyr, ac nid oedd ond peth iawn a phriodol i ni gael tâl am ein barn. Ond nid y cwmpeini, dalltwch, oedd yn talu i ni, ond y bobl oedd yn gwneud y machinery, achos yr oedd yn rhaid i'r llyfrau ddangos fod popeth yn straightforward ac nad oedd dim twyll yn cael ei arfer. Commission, wyddoch, y byddai'r makers yn ei alw, gair a ddyfeisiwyd i dawelu cydwybodau capteiniaid gweithydd mwyn. Ond erbyn hyn y mae'r gair yn nicsionari'r Canhwyllwr, yr Ironmonger, y Timber Merchant, y dyn sydd yn gwerthu powdwr, a chant a mil eraill."
Yn y fan hon, eto, apeliodd y Capten am swcwr at y botel.
"Ydech chi'n 'y nallt i, Sarah? Mi wn na wnewch chi mo 'nghrogi i. Wel, fel yr oeddwn yn dweud, yr oeddem yn cymryd gofal i beidio ag agor y gwaith ond mor araf ag y medrem. Pan gaem bob sicrwydd fod tipyn o blwm mewn rhan neilltuol o'r gwaith, fe fyddem yn gadael llonydd iddo fel arian yn y banc, ac yn ei gadw nes byddai'r cwmpeini bron torri ei galon, a phan ddeallem eu bod ar fedr rhoi'r Gwaith i fyny, fe fyddem ninnau'n mynd i'r banc ac yn codi digon o blwm i roi ysbryd newydd yn y cwmpeini i fynd ymlaen am sbel wedyn. Wedi cael y cwmpeini i ysbryd go dda, fe fyddem yn ail ddechre cynilo, ac felly o hyd, ac felly o hyd ar hyd y blynyddoedd a minnau'n gorfod reportio fel hyn a reportio fel-arall dyfeisio'r celwydd yma un wythnos a'r celwydd arall yr wythnos wedyn, er mwyn cadw pethau i fynd, nes ydw i wedi mynd heb yr un celwydd newydd i'w