Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/46

Gwirwyd y dudalen hon

ddweud, a thâl i mi ddim mynd dros yr hen rai, achos y mae'r cwmpeini yn eu cofio'n rhy dda. Mae'r shareholders trymaf wedi glân ddiflasu a chynddeiriogi ac wedi penderfynu nad ânt gam ymhellach. Ond fe all Mr. Fox a minnau ddweud ein bod wedi gwneud ein dyletswydd, a'n bod wedi gwneud ein gorau i gadw'r Gwaith i fynd ymlaen."

"Wel, Richard," ebe Mrs. Trefor, wedi ei syfrdanu ac yn methu penderfynu pa un ai wedi drysu yn ei synhwyrau yr oedd y Capten ai wedi cymryd tropyn gormod yr oedd.

Wel, Richard, ydech chi ddim yn deud nad oes yno blwm ym Mhwll y Gwynt? Mi'ch clywes chi'n deud gannoedd o weithiau wrth Mr. Denman fod yno wlad o blwm ac y byddech chi'n siŵr o ddwad ato ryw ddiwrnod."

Rhyngoch chi a fi, Sarah," ebe'r Capten," mi gymraf fy llw nad oes ym Mhwll y Gwynt ddim llond fy het i o blwm. Ond wneith hi mo'r tro, wyddoch, i bawb gael gwybod hynny. 'Dydi ddim llawer o bwys am bobl Llunden, ond y mae'n ddrwg gen i dros Denman. Mae o'n gymydog, ac wedi ei dlodi ei hun yn dost. Yn wir, mae gen i ofn y bydd Denman cyn dloted â finnau rai o'r dyddiau nesaf yma."

Cyn dloted â chithe, Richard? ydech chi ddim yn deud ych bod chi yn dlawd?" ebe Mrs. Trefor mewn dychryn.

Cyn dloted, Sarah, â llygoden eglwys, ond just yn unig y pethau a welwch o'ch cwmpas. Yr oeddwn yn ofni eich bod chi a Susi—Susi! sut y medrwch chi gysgu tra mae'ch mam a minnau'n sôn am ein hamgylchiadau?" ebe'r Capten yn wyllt.

"Mi wyddoch, tada," ebe Susi, dan rwbio'i llygaid, na dda gen i ddim clywed sôn am fusnes."

"Fe fydd raid i chi, fy ngeneth," ebe'r Capten," ymorol am fusnes i chi'ch hun rai o'r dyddiau nesaf. Ie, Sarah, yr oeddwn yn ofni eich bod chi a Susi yn byw mewn fools'