Nid oes gennyf ddegpunt arall i'w gwario heb wneud cam â'r teulu."
"Yr ysytriaeth yna yn bennaf, er nad yn hollol," ebe'r Capten, "sydd yn fy ngorfodi i'ch gosod ar yr un tir â mi fy hun gyda'r fentar newydd. Cofiwch, fydd yno ddim Saeson i'n rheoli. Yr ydych chwi a minnau hyd yn hyn wedi gwario ein harian i blesio Saeson anwybodus, ac, fel y dywedais, fyddai ddim yn rhyfedd bydaen nhw yn taflu'r Gwaith a'r gost i gyd i fyny yn y diwedd, ac y mae'n bryd i chwi a minnau droi ein llygaid i rywle lle y gwyddom y cawn ein harian yn eu holau. Gwaith fydd—arhoswch, ddarfu i mi ddim dweud eto wrthych enw y lle y mae fy llygad arno?—Naddo? Wel, dyna ydyw'r lle—'d eith o ddim pellach, ar hyn o bryd, Mr. Denman? Wel, dyna'r lle—Coed Madog! Coed Madog!! Coed Madog!!! (ebe'r Capten, gan ailadrodd yr enw yn ddistaw a chyfrinachol, pan welodd ar wyneb Mr. Denman arwyddion fod pob llythyren yn yr enw fel pe buasent yn treiglo i lawr ei gefn rhwng ei gig a'i groen). Ie, Gwaith fydd Coed Madog i ennill arian ac nid i'w taflu i ffwrdd ar bob anialwch. Yr ydych chwi a minnau, Mr. Denman, wedi gwario digon, ac y mae'n bryd i ni ddechre ennill. Rhyngoch chwi a fi, 'does gen innau yr un deg punt i'w taflu i ffwrdd, ond 'does dim eisiau i bawb wybod hynny. Wrth gwrs, fe fydd raid gwario rhyw gymaint cyn y daw'r Gwaith i dalu, a dyna pam yr oeddwn yn dweud y byddai raid i ni gael ychydig ffrindiau gyda ni. Yn awr, Mr. Denman, edrychwn ar y mater fel hyn: Y chwi a minnau, mewn ffordd o siarad, biau Waith Coed Madog—yr ydym ar yr un footing. Nid oes gan un ohonom arian i'w taflu i ffwrdd. Mae'n rhaid gwario rhyw gymaint. Felly y mae'n rhaid i ni gael rhywun neu rywrai i gymryd shares. Yr ydych chwi yn adnabod pobl yn well na mi, ac yn gwybod am eu hamgylchiadau. Os gallwn wneud daioni i gyfeillion y capel, gore oll, ond os bydd raid mynd at