ei hysgwyddau, ei gwasg, a'i chluniau. Ni fuasai llawer o waith cŷn a morthwyl yn angenrheidiol ar Marged i'w gwneud yn gron, a phe digwyddasai iddi syrthio ar ymyl crib Moel Fama, ar y cwr deheuol, ni pheidiasai â throelli nes cyrraedd Rhuthyn.
Ni bu erioed gamp na byddai rhemp, a hwyrach na bu erioed remp na byddai camp. Yn ei ffordd ei hun yr oedd Marged yn ddiguro. Buasai'n well ganddi dorri ei bys nag i rywun awgrymu bod unrhyw aflerwch yn y ty. Yr oedd pob peth oedd dan ei gofal yn hynod o lanwedd, a phe buasai rhywun yn awgrymu yn wahanol buasai'n drosedd anfaddeuol yn erbyn Marged. Anffaeledigrwydd oedd rhinwedd pennaf Marged, a'r sawl a amheuai hynny oedd y pechadur pennaf. Nid ar unwaith y darganfu Enoc Huws yr anffaeledigrwydd hwn. Gwir iddo gael cymeriad rhagorol i Marged cyn ei chyflogi, ond, fel yr awgrymwyd, ei rhinwedd pennaf yn ei olwg y pryd hwnnw oedd ei bod yn annaearol o hyll. Nid oedd ganddo syniad yr adeg honno am anffaeledigrwydd Marged. Yn ystod yr wythnosau cyntaf y bu hi yn ei wasanaeth ni allai Enoc wneud na phen na chynffon ohoni. Os cwynai ef am rywbeth, âi Marged i'w mwgwd, ac ni siaradai ag ef am ddyddiau. Fel cais olaf cyn ei throi ymaith, meddyliodd Enoc am ei chanmol, i edrych pa effaith a gaffai hynny. Un diwrnod, pan oedd Marged wedi paratoi iddo ginio na allai un Cristion o chwaeth ei fwyta, ebe fe:
Marged, mae'n biti o beth fod fy stumog mor ddrwg heddiw, achos yr ydech chi wedi gneud cinio splendid—fase dim posib iddo fod yn well. Bydaswn i 'n gwbod y basech chi'n gneud cinio mor dda mi faswn wedi gwadd rhwfun yma, ond y mae gen i ofn y bydd raid i mi fynd. at y doctor i gael rhywbeth at fy stumog."
"Ydi," ebe Marged, "mae'r cinio yn syffisiant i undyn byw, a mi wna dipyn o de wermod i chi, mistar, achos i be 'rewch chi at y doctor pan fedra i neud cystal ffisig ag yntau a gwell?"