estron gredu ei fod yn ŵr penderfynol a meistrolgar iawn. Ond ar unwaith, fel pe buasai'n cofio pwy ydoedd, cyfododd Enoc yn wyliadwrus—agorodd gil y drws yn ddistaw, a gosododd ei glust ar y rhigol i wrando a oedd Marged yn cysgu; wedi ei sicrhau ei bod, gwenodd, a chaeodd y drws yn esmwyth, ac, wrth ail eistedd, ebe fe wrtho ei hun: "All right, Jezebel! Ond mae byw fel hyn yn humbug perffaith. Dyma fi wedi bod wrthi fel black drwy'r dydd, ac i beth? Mae pob gwas sy gen i yn fwy hapus na fi. Diolch na ŵyr neb sut fyd sydd arna i. Bydae pobl yn digwydd dwad i wybod, fedrwn i byth ddangos f'wyneb—mi awn i'r America, mi gymra fy llw. A pha raid iddi fod fel hyn? 'Dydw i ddim yn dlawd—yr ydw i'n gneud yn well nag ambell un; a rydw i'n meddwl bydawn i'n cynnig fy hun—wel, 'rydw i agos yn siwr y medrwn i gael—ond waeth heb siarad! Onid ffŵl o'r sort waetha ydw i? Onid 'y mod i'n pendroni bob nos, ac yn adeiladu castelli yn yr awyr ynghylch Miss Trefor ydi achos fy holl anghysuron? Digon gwir! Ond mi rof ben ar hynny heno—pen am byth bythoedd. I beth y pendrona i? ddaw byth ddim byd o hynny, am—wn—i. Bydase gen i dipyn mwy o wroldeb ac wynebgledwch—ond waeth—tewi—'does gen i 'run o'r ddau. Base ambell un wedi mynnu gwybod cyn hyn, a fase rhyw obeth iddo, ac os na fase, yn rhoi clec ar ei fawd. Ond sut y mae Enoc wedi gneud? Caru yn ei ddychymyg, ar ei ben ei hun, heb symud bys na bawd. Yr hen het gen i! Y fath drugaredd na ŵyr neb am feddyliau dyn! Ond y mae rhywbeth i'w ddeud dros Enoc,—mae hi'n uchel— ie, waeth rhoi'r enw iawn arno—mae hi'n falch. 'Dydi hi ddim yn siarad â rhai mwy ymhongar na fi, a mwy respectable, yn ystyr fydol y gair. Er ein bod yn mynd i'r un capel, ac yn 'nabod ein gilydd ers blynyddoedd, 'neith hi brin edrach arna i. Bydawn i ddim ond yn sôn am y peth wrthi,—wel, mi gwela hi! fydde fychan ganddi roi slap i mi yn f'wyneb! Mae'n siŵr ei bod—er nad
Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/59
Gwirwyd y dudalen hon