Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/62

Gwirwyd y dudalen hon

"Be sy gan y Capten isio gynnoch chi, Mistar?" gofynnai Marged gyda'i hyfdra arferol.

"Busnes," ebe Enoc yn frysiog, gair a arferai actio ar Marged fel talisman. Ond nid oedd ei effeithiau, y tro hwn, lawn mor foddhaol, ac ebe hi:

"Busnes, yr adeg yma o'r nos? pa fusnes sy gynnoch chi i'w 'neud rwan?

"Mae'r Fly Wheel Company wedi mynd allan o'i latitude, a mae rhywbeth y mater efo'r bramoke," ebe Enoc yn sobr.

Nid oedd gan Marged, wrth gwrs, ddim i'w ddweud yn erbyn hyn, a chyrchwyd y gannwyll ar unwaith. Ond yr oedd meddwl Enoc yn gynhyrfus iawn, a'i galon yn curo'n gyflym, a'i nerfau fel ffactri. Wedi iddo ymolchi, gorchwyl mawr oedd gwisgo ei ddillad gorau, a phan geisiai roi coler lân am ei wddf tybiodd na allai byth ddyfod i ben, gan mor dost y crynai ei ddwylo. Meddyliodd, fwy nag unwaith, y buasai raid iddo alw ar Marged i'w helpu. Llwyddodd o'r diwedd, ond nid cyn bod y chwys yn berwi allan fel pys o'i dalcen. Wedi ei dwtio ei hun orau y gallai prysurodd i lawr y grisiau, ac er ei syndod y peth cyntaf a welai oedd Marged gyda nodyn Capten Trefor yn ei llaw ac yn ei simio fel pe buasai yn ceisio ei ddarllen, er na fedrai hi lythyren ar lyfr. Pleser Enoc a fuasai rhoi bonclust iddi, ond fe'i ffrwynodd ef ei hun fel y gwnaethai gannoedd o weithiau o'r blaen.

"Mi faswn inne'n licio bod yn sgolor, Mistar, gael i mi ddallt busnes," ebe Marged yn ddigyffro wrth roi'r nodyn ar y bwrdd a gadael yr ystafell.

"Yr ydych chi'n ddigon o sgolor gen i, yr hen gwtsach," ebe Enoc rhyngddo ag ef ei hun wrth roi ei esgidiau.

Cyn cychwyn allan darllenodd Enoc lythyr Capten Trefor eilwaith, a phan ddaeth at y geiriau—nad oedd wedi sylwi'n fanwl arnynt o'r blaen: "Mae arnaf eisiau ymddiddan â chwi ar fater pwysig i chwi ac i minnau,"