Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/63

Gwirwyd y dudalen hon

gwridodd at ei geseiliau. Beth allai fod ystyr y geiriau hyn? gofynnai Enoc. A oedd yn bosibl fod ei feddyliau am Miss Trefor, drwy ryw ffordd nas gwyddai ef, wedi dyfod yn hysbys i'r Capten? Teimlai Enoc yn sicr nad ynganasai air am hyn wrth neb byw. Ac eto rhaid bod y Capten wedi dyfod i wybod y cwbl. A oedd ei wyneb neu ei ymddygiad wedi ei fradychu? neu a oedd rhywun wedi darllen ei du mewn ac wedi hysbysu'r Capten o hynny? Yr oedd y Capten ei hun yn ŵr craff iawn, ac, efallai, yn dipyn o thought reader. Tybed ei fod wedi ei gael allan, ac yn ei wahodd i Dŷ'n yr Ardd i'w geryddu am ei ryfyg? A oedd ef ei hun wedi bod yn siarad yn ei gwsg, a Marged wedi ei glywed, a hithau wedi bod yn clebar? A chant a mwy o gwestiynau ffolach na'i gilydd a ofynnodd Enoc iddo ei hun, ac edifarhaodd yn ei galon addo mynd i Dŷ'n yr Ardd. Meddyliodd am lunio esgus dros dorri ei addewid, ac anfon nodyn gyda Marged i'r perwyl hwnnw. Ond cofiodd yn y funud na allai hi wisgo 'i hesgidiau oherwydd bod ei thraed yn chwyddo tua'r nos, ac na ddeuent i'w maint naturiol hyd y bore. Yr oedd yr hanner awr ar ben, ac yr oedd yn rhaid iddo fynd neu beidio. Edrychodd yn y drych a sylwodd fod ei wyneb yn edrych yn gul a llwyd, ac yn debyg o wneud argraff ar y neb a'i gwelai na byddai ei berchen fyw yn hir. Rhwbiodd ei fochau, a chrynhôdd hynny o wroldeb a feddai, a chychwynnodd. Gobeithiai pa beth bynnag arall a ddigwyddai, na welai Miss Trefor mono y noson honno. Teimlai mai dyma'r ymdrech fwyaf a wnaethai erioed, a bod ei ddedwyddwch dyfodol yn dibynnu'n hollol ar yr ymweliad hwn. Arferai ei alw ei hun yn "hen gath," ond ni ddychmygodd ei fod y fath hen gath hyd y noswaith hon, oblegid pan gurai ddrws Ty'n yr Ardd teimlai ei goesau'n ymollwng dano, a bu raid iddo bwyso ar y mur rhag syrthio. Arweiniwyd ef i'r smoke room; ac nid anhyfryd gan Enoc oedd canfod nad oedd neb yno ond y Capten a Mr. Denman. Yr oedd Mr. Denman wedi ei ddwyn yno yn ddiamau, meddyliai