Enoc, fel tyst, a theimlai fod y mater wedi cymryd gwedd bwysig ym meddwl y Capten, ac ni fu well ganddo erioed gael cadair i eistedd arni.
"Rhaid," ymsyniai Enoc, "fod y Capten yn edrych yn ffafriol ar y peth, neu ynte y mae yn rhagrithio er mwyn cael y gwir."
"Yr wyf yn gobeithio, Mr. Huws," ebe'r Capten, "eich bod yn iach, er, mae'n rhaid i mi ddweud—'dydi hynny ddim yn compliment, mi wn—fy mod wedi'ch gweled yn edrych yn well. Gweithio'n rhy galed yr ydych, mi wn. Yr ydych chwi, y bobl yma sy'n gwneud yn dda, mae arnaf ofn, yn gosod gormod ar yr hen gorffyn. Mae'n rhaid i'r corff gael gorffwys, neu mae'n rhaid talu'r dreth yn rhywle. Rhaid edrych, fel y byddant yn dweud, ar ôl number one. Mae'ch busnes yn fawr, mi wn, ac mae'n rhaid i rywun edrych ar ei ôl. Ond byddwch yn ofalus, Mr. Huws. Mi fyddaf bob amser yn dweud nad gwneud arian ydyw popeth yn yr hen fyd yma; ac er bod yn rhaid eu cael (Mae arno isio gwbod faint ydw i werth,' ebe Enoc ynddo ei hun), mae eisiau i ni gofio bob amser fod byd ar ôl hwn, onid oes, Mr. Denman? Er mai'n dyletswydd yw gwneud y gorau o'r ddau fyd, mae eisiau i ni gymryd gofal o'r corffyn, fel y dywedais, a pheidio, pan fo'r haul yn gwenu arnom, â syrthio i fedd anamserol. Yr wyf yn meddwl, Mr. Huws—maddeuwch fy hyfdra—mai dyna ydyw eich perygl chwi. Mae'r byd yn gwenu arnoch (Mae o'n trio pympio,' meddyliai Enoc), ond cofiwch na ddeil eich natur ond hyn a hyn o bwysau, ac os rhowch ormod o power ar y machinery mae'n siŵr o dorri."
"Yr wyf—yr wyf yr wyf—wedi— prysuro—tipyn—achos 'doedd arna i ddim—isio'ch—cadw chi, Capten Trefor—yn aros amdanaf. Yn wir—'rwyf—wedi colli 'ngwynt—allan o bwff—fel y byddan nhw'n deud—a minnau ddim—yn rhw Samson o ddyn," ebe Enoc gydag anhawster.
"Chwi fuoch yn ffôl, Mr. Huws," ebe'r Capten, "achos nid ydyw hanner awr nac yma nac acw yr adeg yma ar y