wrtho'i hun am ei fod y fath "hen gath," teimlai'n sicr ei fod yn llesmeirio. Agorodd y Capten ddrws yr ystafell a gwaeddodd yn uchel:
"Susi, dowch â thipyn o frandi yma ar unwaith."
"Na, na," ebe Enoc, oblegid nid oedd yn llesmeirio, "mi fyddaf yn iawn yn union deg."
"Mae'n rhaid i chwi, Mr. Huws, gymryd rhywbeth i'ch dadebru—yr ydych wedi gwneud gormod," ebe'r Capten.
Gan dybied mai ar ei thad yr oedd angen y brandi, daeth Susi yn frysiog i'r ystafell gyda'r quantum arferol, oedd, a dweud y lleiaf, yn "stiff." Synnodd Susi yn fawr pan welodd Enoc Huws ar y soffa, a'i wyneb cyn wynned â'r galchen, a chynhyrfwyd ei chalon, oblegid yr oedd gan hyd yn oed Miss Trefor galon, ac ebe hi yn dyner :
"O, Mr. Huws bach! 'rydech chi'n sâl. O! mae'n ddrwg gen i ydi'n wir! Cymerwch hwn, Mr. Huws bach, dowch," a rhoddodd ei braich am ei wddf i'w gynorthwyo i godi ei ben.
Yr oedd Enoc yn Nasaread o'r groth; ond sut y gallai ef wrthod? Crynai ei law gymaint fel na allai ddal y gwydryn yn wastad, a chymerodd Susi y llestr yn ei llaw ei hun, gan ei osod wrth ei enau. Mor boeth oedd y gwirod, ac Enoc yntau heb erioed o'r blaen brofi'r fath beth, fel y neidiodd y dagrau i'w lygaid wrth iddo ei lyncu.
"Peidiwch â chrio, Mr. Huws bach, mi ddowch yn well toc; dowch, cymerwch o i gyd," ebe Susi yn garedig neu yn ystrywgar.
A'i gymryd a wnaeth; a phe buasai cynhwysiad y gwydryn yn wenwyn marwol, ac yntau'n gwybod hynny, ni allsai ei wrthod o'r llaw wen, dyner honno.
"Gorweddwch yrwan, Mr. Huws bach, ac mi ddowch yn well yn y munud," ebe Miss Trefor.