"Certainly," ebe Enoc yn fywiog, " yr ydw i yn barod i entro i unrhyw arrangement rhesymol; ac yr ydw i yn addo i chi, Capten Trefor, pan ddown i berthynas agosach, os byth y down, na chewch y drafferth a gawsoch gyda fi heno. Fûm i 'rioed yn teimlo 'run fath o'r blaen. Yn gyffredin, yr ydw i'n ddyn lled gryf, ac yn gweithio cyn gleted ag odid neb, ond fedrwn i rywfodd mo'i —
"Dyna ydyw eich bai, Mr. Huws," ebe'r Capten, cyn i Enoc gael gorffen y frawddeg—" gweithio yn rhy galed yr ydych, a dyna pam y dylai gŵr fel chwi—(thank you, Susi, chwi ellwch chwi fynd yrwan)—ie, dyna pam y dylai gŵr fel chwi gael rhywun i gymryd rhan o'ch baich. a'ch gofal, ac i edrych ar ôl eich cysuron. Dyma ydyw eich angen mawr, Mr. Huws, ac ond i chwi wneud yr angen yna i fyny, chwi fyddech yn ddyn dedwydd. Beth a ddaethai o honof i, syr, oni bai am Mrs. Trefor? Buaswn yn fy medd ers llawer dydd. Maddeuwch y sylw, Mr. Huws, ond, fe ddylai dyn sydd wedi cyrraedd ei—wel, dyweder f'oed i, fod yn dipyn o philosopher. 'Dydw i fy hun yn gweled dim diben, nac amcan teilwng o ddyn, mewn bywyd sengl. Chwi wyddoch, Mr. Huws— oblegid yr ydych chwi, fel fy hunan, yn un sydd wedi darllen llawer—pan fo dyn yn ymdroi ynddo ei hun, mewn ymchwiliad am ddedwyddwch, ei fod bob amser yn methu ei gael; ond pan gyfeiria ei ymdrechion at wneud eraill yn ddedwydd, mai dyma'r pryd yr enilla hunan—ddedwyddwch. Er enghraifft—oblegid nid oes dim yn well nag enghraifft—pe buaswn i wedi gwneud hunan—ddedwyddwch yn brif amcan fy mywyd, a phe buasai Mrs. Trefor wedi gwneud yr un modd, buasem ein dau yn rhwym o fod wedi aflwyddo. Ond gan mai amcan mawr bywyd Mrs. Trefor a minnau ydyw gwneud y naill y llall yn hapus, yr ydym wedi ennill ein dedwyddwch yn ein gilydd. Ac y mae hyn yn hollol gyson â dysgeidiaeth ein Harglwydd am hunanymwadiad, pa mor hwyrfrydig bynnag ydyw'r byd i gredu yr