Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/71

Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD XII

Dechrau Amgyffred y Sefyllfa.

YMOLLYNGODD y Capten i lefaru, fel y dywedwyd, ac ebe fe:

"Efallai, Mr. Huws, a chymryd popeth i ystyriaeth, y gellwch chwi a minnau ddweud fod ein llinynnau wedi disgyn mewn lleoedd tra hyfryd, a dichon y gall Mr. Denman fynd lawn cyn belled â ni yn y ffordd yna. Er bod gennyf lawer o destunau diolch, hwyrach fwy na'r cyffredin o ddynion, nid y lleiaf, Mr. Huws, ydyw fy mod, fel offeryn gwael yn llaw Rhagluniaeth, wedi cael y fraint o fod mewn cysylltiad, a'r cysylltiad hwnnw heb fod yn un dirmygus, â gwaith a fu yn foddion— os nad yn uniongyrchol, yn sicr, yn anuniongyrchol— i roddi tamaid o fara i rai cannoedd o'n cydgenedl, ac i helpu eraill i ddarparu ar gyfer diwrnod glawog—ymhlith y rhai olaf yr wyf yn eich ystyried chwi, Mr. Huws,—a hefyd cysylltiad a fu'n foddion, nid yn unig i ddarparu ar gyfer y corff, ond, mewn ffordd o siarad, ac yn wir, fel mater o ffaith, a fu'n gefn ac yn swcwr i anghenion ysbrydol y gymdogaeth, drwy ein galluogi mewn gweinidogaeth gyson a difwlch—beth bynnag a ddywedwn am ei hansawdd,—i ddiwallu, neu o leiaf, i roddi cyfleustra i ddiwallu, anghenion yr enaid, yr hyn, mae'n rhaid i ni oll gydnabod, ydyw'r peth pennaf, pa un a ystyriwn ni bersonau unigol neu gymdeithas fel cymdeithas." ("I b'le yn y byd mawr mae o'n dreifio 'rwan?" gofynnai Enoc iddo ei hun.) Hwyrach," ychwanegai'r Capten, "na byddwn ymhell o'm lle pe dywedwn mai Pwll y Gwynt ydyw asgwrn cefn y gymdogaeth hon mewn ystyr fasnachol, a hwyrach na chyfeiliornwn pe dywedwn hefyd eich bod chwi, ymysg eraill, wedi manteisio nid ychydig oddi wrth y Gwaith. Wel, syr, ffordd