Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/73

Gwirwyd y dudalen hon

beth bynnag. Ond y tebygolrwydd ydyw y bydd diwedd buan ar Bwll y Gwynt, a phryd bynnag y digwydd hynny—hwyrach, ymhen y mis, neu ymhen y flwyddyn ond pa bryd bynnag, fe ellir crynhoi'r rheswm amdano i hyn—fel y gŵyr Mr. Denman—am na allaf gael fy ffordd fy hun, a bod y Saeson sydd yn byw yn Llunden yn meddwl y gwyddant sut i weithio Pwll y Gwynt yn well nag un sydd wedi treulio hanner ei oes dan y ddaear. I mi, Mr. Huws, ei roi i chwi mewn cneuen, mae'r cwbl yn dyfod i hyn—na allaf gael fy ffordd fy hun o drin y Gwaith. Fy ffordd i a fuasai cario'r Gwaith ymlaen, a hynny ar ddull hollol wahanol i'r ffordd y cerrir ef ymlaen yn awr, nes dyfod o hyd i'r plwm, sydd yno mor sicr a'ch bod chwi a minnau yma Ond ffordd pobl Llunden fydd, mae arnaf ofn, rhoi'r Gwaith i fyny, am nad oes ganddynt amynedd i aros. Mi welaf, Mr. Huws, y bydd raid i mi brysuro, er y buasai yn dda gennyf fyned i mewn yn fanylach i'r pethau. Y pwnc ydyw hwn: 'does dim yn well na bod yn barod ar gyfer y gwaethaf.” (Yr oedd Enoc yn dechrau canfod i ba gyfeiriad yr oedd y gwynt yn chwythu, ac yr oedd wedi oeri gryn raddau.) Rhag ofn mai'r gwaethaf a ddaw—rhag ofn mai â'i ben ynddo y cawn Bwll y Gwynt, a hynny ar fyrder, ac er mwyn, os digwydd hynny, gwneud rhyw ddarpariaeth ar gyfer y degau o deuluoedd sydd yn dibynnu'n hollol ar y Gwaith, ac, yn wir, er mwyn masnachwyr ac eraill, yr wyf wedi sicrhau—nid gyda golwg ar hunan—les, cofiwch, oblegid mi gaf i damaid, tybed, am yr ychydig sydd yn weddill o'm hoes i, ac fe ddylai pob dyn yn f'oed i fod uwchlaw angen nid er fy mwyn fy hun, meddaf, yr wyf wedi sicrhau'r virgin ground—neu, mewn geiriau eraill, lle y gallwn, gydag ychydig gynhorthwy, agor Gwaith newydd—nid ar yr un scale, mae'n wir, â Phwll y Gwynt—ond Gwaith, gydag ychydig gannoedd o bunnau o gost, a ddôi i dalu amdano ei hun mewn byr amser, ac, yn y man, a roddai foddion cynhaliaeth i rai ugeiniau o