migyrnau yn egnïol am ennyd cyn y gallai agor ei llygaid. Wedi'r oruchwyliaeth, a ffroeni'n anwydog, meinhaodd Marged ei llygaid, crychodd ei thalcen, ac edrychodd ar y cloc, ac ebe hi:
"Wel, yn eno'r rheswm annwyl, mistar, lle buoch chi tan 'rwan? Be bydaswn i ddim wedi rhoi digon ar tân, oni fase 'ma le cynnes i chi! A wn i ddim be naeth i mi feddwl am neud tân da, achos feddylies i 'rioed y basech chi allan dan berfedd nos fel hyn.'
"Yr ydech chi bob amser yn feddylgar iawn, Marged," ebe Enoc. Yn wir, mae'n biti mawr, Marged, na fasech chi wedi priodi—mi 'neuthech wraig dda, ofalus."
Edrychodd Marged yn foddhaus, ond buasai yn well i Enoc dorri ei fys a dioddef ei thafod drwg na siarad fel y darfu. Teimlai Enoc yn y dymer orau y buasai ynddi ers llawer blwyddyn. Yr oedd, o'r diwedd, wedi llwyddo i gael ei big i mewn yn Nhy'n yr Ardd, a chredai na byddai dim dieithrwch rhyngddo a Miss Trefor mwyach, ac yr oedd mwyneidd—dra Marged yn dwysáu ei ddedwyddwch nid ychydig. Awyddai'n fawr am i Marged fynd i'w gwely er mwyn iddo gael mwynhau a gloddesta ar ei feddyliau mewn unigrwydd, ac adeiladu castell newydd sbon. Ond nid oedd Marged landeg yn troi cymaint â chil ei llygaid at y grisiau. Yn hytrach, eisteddodd fymryn yn nes at ei meistr nag erioed o'r blaen, a dangosodd duedd ddigamsyniol i ymgomio yn garuaidd. Ni allai Enoc amgyffred y cyfnewidiad sydyn a dymunol a ddaethai dros ysbryd Marged. Meddyliodd fod ffawd yn dechrau gwenu arno, a bod dyddiau dedwydd eto yn ei aros. Parod iawn a fuasai i wneud heb gwmni Marged, ond nid oedd hi yn gwneud osgo at fynd i glwydo. Yn union deg aeth Enoc i'w wely, er y dywedai Marged "nad oedd hi ddim yn rhyw hwyr iawn, wedi'r cwbl, a bod y cloc dipyn o flaen y dre."