Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/81

Gwirwyd y dudalen hon

mi fyddaf yn yr un fan ag o'r blaen. Bydase'r fentar yn Jericho mi fase'n dda gen i! I be yr âf i daflu 'mhres i ffwrdd ar rywbeth na wn i ddim amdano? Swindle ydi'r rhan fwya o'r gweithydd yma. Ac eto, mae'r Capten yn dad i Susi, ac yn ddyn gonest ac anrhydeddus—am—wn—i. Bydae o'n deud mai yn y lleuad y mae o am fentro—fe fydd raid i mi gymryd rhyw chydig o shares. Ond mi driaf fod yn wyliadwrus yn y dechre, nes cael gweld a fydd rhyw obaith i mi am Susi. Heb Susi—dim mentro; Susi—ac mi fentraf yn Jupiter—byth o'r fan yma.'

*****

RHIF II. 'Rydw i'n bump ar hugain oed—a 'dydi'r gŵr bonheddig ddim wedi dwad eto! Ddaw o ddim bellach, ne mi fase wedi dwad cyn hyn. Hwyrach eu bod nhw wedi dallt, o 'mlaen i, fod 'y nhad yn dlawd. O'r brenin annwyl! y fath suck! Sobor! Pam na fase fo'n deud yn gynt, yn lle cadw 'mam a minne yn y twllwch? A gadael i ni gario 'mlaen ar hyd y blynyddoedd! Ond y mae 'nhad bob amser mor glos. Be ddeudith pobol? a be 'nawn ninne? Wel, fe gewch chi fynd i gadw 'rwan—wisga i monoch chi eto, gan mai tlawd yden ni. Humbug,' fel y bydde Wil, druan, yn deud, ydi ymddangos, heb ddim ond ymddangos. A 'dydw i ddim am 'neud hynny, waeth genni be ddeudith 'mam. Os tlawd yden ni—tlawd y dylen ni ymddangos. Mi wisga ffroc gotwn—neith pobol ddim ffeindio cymin o fai pan ddaw'n tlodi ni i'r golwg. Mae genni flys lluchio'r watch aur yma allan drwy'r ffenest. Dim chwaneg ohonoch chi, bracelets a gold brooch! 'Dydech chi ddim yn gweddu i bobol dlawd. Ac eto, 'rydech chi yn bur bropor! a dyma i chi gusan o ffárwel! Gorweddwch yn eich wadding nes bydd raid eich gwerthu i gael bwyd! Y pethe bach tlws! un cusan eto, a dyna'r caead dros—eich—wyneb! O!—yr ydw i—fel 'roedd 'y nhad yn deud, wedi rhoi airs i mi fy hun. Ond dim chwaneg. Yr ydw i am fod yn eneth gall—heb ddim