PENNOD XV
Eglurhad.
NID oedd Capten Trefor yn perthyn i'r dosbarth hwnnw o ddynion na wyddant yn y bore beth a ddigwyddodd y noson cynt. Y mae dynion felly, rhai fydd, pan adroddir iddynt hanes y noson cynt, heb ddim i'w wneud ond ysgwyd eu pennau, cyfaddef eu hanwybodaeth, eu galar, a chydnabod eu bod fel ar fel, ac felly, mewn ystyr, nad oeddynt yn gyfrifol. Ni pherthynai Capten Trefor i'r dosbarth hwnnw. Byddai ei gorff, " mewn ffordd o siarad," chwedl yntau, "yn gwneud defnydd helaeth o Scotch Whiskey," ond yr oedd ei feddwl yn llwyrymwrthodwr, os nad yn areithio ar ddirwest. Yr oedd meddwl y Capten yn abl, drannoeth ar ôl y gyfeddach, i roddi cyfrif manwl am bopeth a ddigwyddodd.
Y bore hwn deffrôdd y Capten yn lled blygeiniol, a'i ben, nid yn unig yn rhydd oddi wrth gur, ond yn berffaith glir. Credai'r Capten mai i bobl gryfion yn unig y bwriadwyd diod gadarn, ond am y lleill, mai eu dyletswydd oedd ymgadw ymhell oddi wrthi. Fel darpariaeth ar gyfer y dosbarth hwn, ystyriai'r Capten y Gymdeithas Ddirwestol yn sefydliad rhagorol iawn, ni buasai'n petruso, pe gofynasid iddo, gymryd y gadair mewn cyfarfod dirwest, heb ei ystyried ei hun yn euog o un anghysondeb.
Adolygai'r Capten yn ei feddwl ddatguddiedigaethau'r noson flaenorol gyda llawer o foddhad. Yr oedd, ers llawer o amser, yn canfod ei bod yn tywyllu ar ei amgylchiadau, a bu fwy nag unwaith ar fedr paratoi meddwl ei wraig a'i ferch gogyfer â hynny. Gwyddai o'r gorau yr achosai hyn gryn gynnwrf a thrwst yn Nhy'n yr Ardd. Byddai yno dipyn o synedigaeth, o grio ac o fonni. "Mewn ffordd o siarad," chwedl yntau, yr oedd wedi torchi ei lewys at y gorchwyl amryw weithiau, ond wrth feddwl am ei effeithiau pallai ei wroldeb. Ond yn awr,