hyd yn oed ar bobol well na ni'n hunen, a gneud i ni feddwl yn bod ni'n rhwbeth mwy na chyffredin,—y gallen ni gymdeithasu â phobl uchel eu sefyllfa, a chadw oddi wrth bobol erill, a dyma chi, yn y diwedd, heb i ni feddwl dim byd, yn deud yn bod ni'n dlawd, a bod y cwbwl drosodd. 'Rydech chi wedi bod yn greulon aton ni, Richard."
"Yr oeddwn yn meddwl, Sarah," ebe'r Capten, "fy mod, neithiwr, wedi rhoddi i chwi reswm digonol am f'ymddygiad a hwnnw oedd tynerwch fy nghalon, a'r awydd oedd ynof i beidio ag amharu dim ar eich dedwyddwch. Ac eto dyma chwi yn galw hynny'n greulondeb! Mae hyn yn wendid ynof, mi wn, sef gorawydd am wneud eraill yn hapus, er i hynny gostio'n ddrud i mi fy hun. Mae o ynof erioed. Ond y mae hyn o gysur gennyf, sef nad ydwyf ar fy mhen fy hun yn hyn o beth. Oni chlywais i chwi eich hun, Sarah, yn dweud, a hynny yn eithaf priodol, mor ddoeth a da ydyw'r Brenin Mawr, yn cadw oddi wrthym ragwybodaeth am ddyddiau tywyll, ac amgylchiadau anghysurus? Mae'n rhyfedd, Sarah, fod doethineb yn y Llywodraethwr Mawr, yn greulondeb yn ei greadur gwael. Mae'r pethau sydd o'n blaen, megis dydd ein marwolaeth, yn anhysbys i ni. Ai trugaredd ai creulondeb fu'n trefnu hynny?
'Mi wyddoch o'r gore, Richard, nad ydi'r Brenin Mawr yn twyllo neb, ac os ydi o'n ein cadw yn y twllwch am bethe sydd i ddwad, mae o wedi'n rhybuddio i fod yn barod ar eu cyfer. 'Ddaru chi ddim gneud hynny."
"Naddo, Sarah, naddo; am y rheswm da nad ydwyf i, mwy na rhyw greadur meidrol arall, yn gwybod dim am y dyfodol. Pe buaswn yn sicr, dyweder flwyddyn. yn ôl, mai fel hyn y diweddai pethau, a ydych yn meddwl, Sarah, na fuaswn yn eich rhybuddio? Mae'n wir fy mod yn ofni iddi ddyfod i hyn ers talwm; ond pa sawl gwaith y bûm yn ofni, ac wedi'r cwbl, fy holl ofnau'n troi allan yn ddisail? Pe buaswn wedi hysbysu f'ofnau i chwi, Sarah, buasech, gan mor wahanol i'r ofnau yr oedd