nag un—mi gymeraf dipyn chwaneg o fara, Sarah—thank you—heb i mi nodi mwy nag un enghraifft Ysgrythurol—er bod amryw yn dyfod i'm meddwl—pe meddyliem am Dafydd, pêrganiedydd Israel. Pa syniad a ffurfiai ambell ddyn annuwiol—neu, fel y dywedir weithiau—ddyn heb feddu'r ddirnadaeth ysbrydol—am ŵr fel Dafydd pan ddarllenir rhai—rhai, meddaf, o'i Salmau? Fe gredai mai'r dyhiryn gwaethaf yn y byd ydoedd, pryd, mewn gwirionedd, mai gŵr wrth fodd calon Duw ydoedd Dafydd. Fel y dywedais neithiwr, Sarah, wrth edrych yn ôl ar fy mywyd, tra'r oeddwn, ar y cyfan, yn ceisio cadw cydwybod ddirwystr, mae'n rhaid i mi gyfaddef nad ydwyf wedi bod yn berffaith. Ac eto, wrth ystyried nifer crochanau'r byd drwg presennol, yr wyf, o angenrheidrwydd—nid o ddewisiad—wedi troi yn eu mysg, mae'n syndod cyn lleied o'u parddu sydd wedi glynu ynof. Wyddoch chwi, Sarah, y nesaf peth i ddim am demtasiynau'r byd, y cnawd, a'r diafol. Yr ydych chwi yma megis mewn private life yn gallu myfyrio ar y pethau, a heb lychwino dim ar eich ysbryd, tra yr wyf i yn gorfod troi ymhlith pob math o ddynion, ac, fel yr Apostol, yn gorfod bod yn bopeth i bawb, nes byddaf, weithiau, yn teimlo, fel yr oeddwn neithiwr, wrth gymharu fy mywyd â'ch bywyd chwi, yn edrych arnaf fy hun fel rhagrithiwr twyllodrus, er nad wyf yn un felly. Ond pwy ŵyr na chedwir finnau! Wnaed mohonom i gyd i fyw bywyd private, a mi fyddaf yn meddwl bod yn yr Efengyl ddarpariaeth ar gyfer pob dosbarth ohonom, a bod ei Hawdwr yn cymryd i ystyriaeth ein gwahanol amgylchiadau."
"Mae'n dda gan 'y nghalon i 'ch clywed chi'n siarad fel ene, Richard," ebe Mrs. Trefor, wedi iacháu cryn lawer. "Doeddwn i prin yn credu mai chi oeddech chi neithiwr. Mi ddaru chi 'nychrynu i yn arw, Richard, a mi feddylies yn siŵr mai dyn digrefydd oeddech chi, a'ch bod chi wedi 'nhwyllo i ar hyd y blynydde."