minnau fod dan yr argraff eich bod yn meddu tipyn o arian—yn wir, eich bod yn gyfoethog; ond—maddeuwch y crybwylliad—'ddaru mi ddim sôn am y peth o'r blaen, hyd yr wyf yn cofio, ond unwaith, a hynny'n gynnil—chwi wyddoch, meddaf, faint o eiddo a gefais hefo chwi, ond a ddarfu i hynny leihau un iota, fel y dywedir, ar fy serch i atoch? Dim, Sarah, dim. Yn wir, erbyn hyn, mae'n dda gennyf gofio na chefais ddim gyda chwi, ond yr hyn oedd ynoch chwi eich hun—ac yr oedd hynny'n ddigon. Cofiwch, Sarah, fy mod yn crybwyll hyn gyda'r unig amcan o ddangos i chwi pan fydd gŵr ieuanc wedi gosod ei fryd ar ferch ieuanc, na bydd dyfod i wybod nad yw gwrthrych ei serch yn meddu ar gyfoeth, yn newid ei fwriadau tuag ati, na lleihau dim ar ei serch, ond yn hytrach i'r gwrthwyneb. O leiaf, dyna fy mhrofiad i, ac yr wyf innau o'r un defnydd â'r hil ddynol yn gyffredin. Heblaw hynny, yr wyf yn methu gweld bod yn rhaid i Mr. Huws, na neb arall, wybod ein bod yn dlawd, ar hyn o bryd, fodd bynnag."
"Mae gen i ofn, Richard," ebe Mrs. Trefor, na fydd gan Susi feddwl yn y byd o Mr. Huws. 'Does gen i fy hun ddim yn y byd i'w ddweud am y dyn—mae o'n riol, am wn i—ond mi fydd yn od gen i os leicith Susi o."
Dyletswydd rhieni, Sarah, fel y gwyddoch," ebe'r Capten, ydyw cyfarwyddo eu plant, a dyletswydd plant ydyw ufuddhau, heb ofyn cwestiynau. A sôn am licio a licith hi, tybed, fynd i wasanaeth? licith hi olchi'r lloriau hefo pob math o Mary Ann a Mary Jane, ac ymgymysgu â phob math o strwt? Mae'n rhaid i chwi, Sarah, egluro iddi, mewn iaith na all ei chamgymryd, nad oes dim ond menial work o'i blaen, os na bydd hi'n gall a synhwyrol yn yr amgylchiad hwn. Pa fodd bynnag, mae'n rhaid i mi ofyn hyn gennych chwi a chan Susi, sef rhoddi pob parch a chroeso a sylw dyladwy i Mr. Huws pan ddaw o yma. Mae'n bywoliaeth, fel teulu, yn dibynnu ar ei ie neu ei nage ef. Ydech chi'n dallt fy meddwl, Sarah? Ond dyma Susi yn dwad