"Ac eto, fe ddengys hanes oesol werth meddyginiaethol tiriondeb at droseddwyr politicaidd, a hefyd y gwenwyniad-gwaed gwleidyddol sydd rywfodd yn dilyn dienyddiad pa mor eglur bynnag a fo'r achos, pa mor wael bynnag a fo'r tramgwydd, pa mor daer bynnag yr ymddengys yr angen am wneuthur esiampl. Ar ryw ystyr, peth rhad yw i ni ddywedyd hyn. Y mae'r dasg ger bron arweinwyr Iwerddon yn amgenach nag a fu erioed o flaen arweinwyr y genedl, ac nid oes gennym ni panacea i'w gynnig iddynt, ond yn unig ryw deimlad greddfol o gyfeillgarwch sydd yn gwylio eu prawf ofnadwy o dipyn o bellter. Nid oes gennym ddim i'w gyfrannu iddynt ond datganiad o'n teimlad dwfn nad yw holl hanes llywodraethwyr dynion, ie y gorau ohonynt, wedi canfod diwedd yr holl ddaioni a all ddeillio wrth ollwng troseddwyr amlwg ac agored yn rhydd."
Rhyw bum mlynedd yn ôl, pan yn Nulyn, clywais fod gweddw Childers yn dymuno fy ngweled. Yn y prynhawn euthum i'r Abbey Theatre i weled y ddrama angerddol Juno and the Paycock gan Sean O'Casey—darlun deifiol o drychineb personol chwyldroad y Sinn Fein, gyda'i gymhellion cymysg a'i foddion creulon yn enw cenedlaetholdeb. Euthum oddi yno i dŷ Erskine Childers. Gwisgai ei weddw ddillad duon ei galar; eisteddasom am ddwy awr i drafod hen bethau. Cefais fod y storm wedi ei gyrru at loches y graig dragwyddol. Dywedodd am y tro olaf y gwelodd ei gŵr, a'i fod yn sefyll yn y fan yr eisteddwn i, ac yn dweud wrthi yn drist, "Y mae'n rhaid i mi ymuno â hwy" (sef plaid de Valera).
"Erskine," meddai hithau, "wnewch chwi ddim lladd."
Edrychodd yntau yn ôl arni a dywedodd yn araf, fel gŵr yn gwneuthur adduned, "Na, wna' i ddim lladd."
Yn lle'r chwerwedd a welswn ynddi, ynghanol yr ymbleidiaeth yn 1921, yr oedd haelfrydedigrwydd ei gŵr wrth farw wedi ei meddiannu hithau hefyd. Siaradodd am Loegr: "Y mae'r Saeson mor deg wedi iddynt ddeall pethau yn iawn." Dywedodd fod cylchgrawn hen ysgol ei gŵr yn Haileybury wedi cyhoeddi ysgrif hael am Childers fel un o enwogion yr ysgol. Diolchai fod ei meibion yn gwneuthur gwaith cyd-weithredol yn y wlad, yn hytrach na gwaith politicaidd, a soniai am gysur y Groes, a'i ffydd Gatholig. Wrth ymadael â'r weddw hardd ac athrylithgar yn ei gofid personol a'i hunigedd, wedi buddugoliaeth plaid a chenedl, yr oedd fy nghalon yn llawn dagrau, a hefyd o ddiolchgarwch am na rwystrwyd gan ryfel na dial dynion amcanion personol a grasol y Goruchaf yn addysg a pherffeithiad ei blant.