Tudalen:Profiadau Pellach 01.djvu/20

Gwirwyd y dudalen hon

"Gallaf ddweud yn ddibetrus fod gwahaniaeth mawr yn y Bwrdd Cymod y tro o'r blaen, a hynny am fod y Cyfarfod Misol; fu dim anhawster i gytuno y tro yma gan fod yr ysbryd yn hollol wahanol. Ni fuaswn yn credu y buasai'r gwahaniaeth yn gymaint heb fod yn rhaid i mi deimlo hynny. Credaf na bydd dim anhawster i gytuno am un o'r gloch yr haf nesaf."

CYMOD MEWN DIWYDIANT

Symudais yn 1920 o'r bwthyn annwyl yn Nant Ffrancon i Blas Gregynnog yn Sir Drefaldwyn. Amcanwyd gwneuthur y plas yn fan cyfarfod a chymod i wahanol agweddau ar fywyd Cymru. Cyfarfu yno yn y blynyddoedd canlynol o dro i dro gerddorion, gweinidogion a lleygwyr, arloeswyr mewn gwahanol feysydd o wasanaeth cymdeithasol, a chynhadleddau o Undeb Cynghrair y Cenhedloedd. Pan oeddym yno yn Ionawr 1921, cefais lythyr oddi wrth gyfaill yn Sir Fôn, a oedd yn ysgrifennydd i Undeb y Gweithwyr, yn fy atgoffa o'm hymweliad y flwyddyn gynt â chwarelwyr Penmon. Eglurodd eu bod ar streic ers misoedd a bod cryn ddioddefaint ymhlith eu teuluoedd, a'i fod yn ceisio hel tipyn o gronfa iddynt. Ceisiais ond methais gael unrhyw help sylweddol iddynt, ond cynigiais wneuthur unrhyw beth oedd yn fy ngallu i geisio cymod yn yr ymrafael. Cefais ateb yn ôl mai ffyrm yn Glasgow oedd perchenogion y chwarel, a'u bod yn fwy o deyrn na'r Arglwydd Penrhyn gynt, bod y Cadfridog Owen Thomas a'r Weinyddiaeth Lafur wedi ceisio yn ofer gael trafodaeth.

Digwyddai fy mod yn myned i Glasgow yr wythnos ar ôl hynny, am y tro cyntaf ac olaf yn fy mywyd, i Gynhadledd Undeb Cristnogol y Myfyrwyr. Wedi cyrraedd Glasgow a chael rhan mewn cynhadledd o gyn-filwyr o wahanol wledydd dan nawdd Brawdoliaeth y Cymod, euthum gydag ysgrifennydd y Frawdoliaeth, a oedd yn Sgotyn, i geisio cymod rhwng gweithwyr Cymreig a chyflogwyr Ysgotaidd. Euthum at swyddfa fawr yn George Street, a gofynnais am gael gweled ysgrifennydd y cwmni. Wedi i mi egluro'r hanes a'r amcan, torrodd ar fy nhraws: "Y maent wedi tynnu'r tŷ ar eu pennau eu hunain, a rhaid iddynt ddioddef y canlyniadau. Bygythiasant streic am fwy o gyflog tra oedd chwareli o'r fath yn gorfod cau oherwydd prinder marchnad i'r cerrig."

Atebais innau mai gwragedd a phlant oedd yn dioddef,