Tudalen:Profiadau Pellach 01.djvu/24

Gwirwyd y dudalen hon

yn ôl G. D. H. Cole, yn un o lythyrau pwysicaf hanes diwydwaith diweddar. [1].


Yn y cyfamser digwyddodd Mr. J. H. Whitley, Llefarydd y Tŷ Cyffredin, ddarllen disgrifiad Malcolm Sparkes o'i anturiaeth yng nghylchgrawn Brawdoliaeth y Cymod, a chymhellwyd ef i ddilyn y weledigaeth ei hun a cheisio sefydlu Byrddau Cymod ym mhob diwydiant; a dyna ddechrau y Whitley Councils, a wnaeth gymaint o les yn anghymod diwydiant y wlad am flynyddoedd. Ond yn y dyddiau hynny diflannodd Malcolm Sparkes o'r amlwg i gysgod carchardai am ddwy flynedd am ei fod yn Wrthwynebwr Cydwybodol i ryfel.

Yn raddol lledaenodd rhwyd y cyfeillachu a'r cydweithredu at yr holl fasnach adeiladu. Ffurfiwyd "Senedd yr Adeiladwyr," fel y gelwid hi, a phenodwyd pwyllgorau pwysig o feistri a gweithwyr i ystyried cwestiynau fel Prentisiaeth, Damweiniau, Pensiynau a Chyflogau, a ducpwyd adrodiadau unfryd am welliannau. Y tir llosg ydoedd mater cyflog ac elw, ond yr oedd y ddwyblaid wedi dod

yn rhydd ac agos at ei gilydd erbyn hyn. "Paham na weithiwch chwi fel cynt?" ebe un o'r meistri. "Paham y dylem weithio i'n lladd ein hunain er mwyn elw i chwi?" oedd yr ateb. "Ond ni ddisgwyliwch i ni fod heb elw?" "Na," meddant, "ond disgwyliwn i chwi gymryd elw cymedrol a rhoddi'r elw dros ben at fudd y diwydwaith." Fe fuasai hynny'n well nag ennill ar un gontract, a cholli ar gontract arall oherwydd streic a helynt."

O beth i beth cytunwyd ar gynllun mai'r ddelfryd ydoedd i'r ddiwydwaith logi cyfalaf y meistri, a thalu am eu gwaith a'u cyfarwyddyd, a thalu'n ôl eu colledion anocheladwy, a bod yr elw dros ben i fyned at fudd cyffredin yr adeiladwyr. Bu trafodaeth frwd ar yr Adroddiad yn Senedd yr Adeiladwyr, ond ni chafwyd mwyafrif digonol i fentro Sosialaeth wirfoddol o'r fath. Felly fe fentrodd Malcolm Sparkes daflu ei goelbren i blith y gweithwyr yn yr anturiaeth a alwyd The London Guild of Builders. Yn ôl eu cyffes, gwasanaeth gonest a da oedd eu delfryd, a chyflog yn ôl yr angen, fel guilds crefyddol yr Oesoedd Canol. Ar y dechrau, yn ôl tystiolaeth arbenigwr cyfarwydd, adeiladasant yn well, yn rhatach, ac yn gyflymach na neb ar y maes. Wedi hynny,

  1. Gweler The Industrial Council for the Building Industry (Garton Foundation)