Tudalen:Profiadau Pellach 01.djvu/25

Gwirwyd y dudalen hon

cododd guilds cyffelyb fel caws-llyffaint ar hyd a lled y wlad, yr un mewn enw ac ymddangosiad, ond heb yr hanes a'r drafodaeth oedd wrth wraidd Guild Llundain. Mewn amser, ceisiwyd eu huno mewn un guild cenedlaethol gan S. G. Hobson, gŵr a fagwyd fel Crynwr ond a droes i athrawiaeth y rhyfel dosbarth Marxaidd. Cofiaf ei gyfarfod yn nhŷ arch- adeiladydd a oedd mewn cydymdeimlad llwyr â delfryd y guilds ac a fentrodd gyflwyno contract bwysig iddynt; ond cyflawnwyd y gwaith yn bur araf ac yn anfoddhaol. Wedi clywed cwynion y pensaer dywedodd Hobson, "Wel, rhaid cael gwared â'r manager; y mae yn fachgen da, ond yn ffwl yn ei drefniadau."

Gofynnais iddo onid oedd yn syrthio i fai pennaf y cyfalafwr-unbennaeth—haeru awdurdod i farnu a diswyddo dynion.

Atebodd yntau, "Fy syniad i yw, cael saith o ddynion galluog ar y blaen a stopio'r clebran; syniad Malcolm Sparkes yw trafod pob peth gyda'r gweithwyr fel Cyfarfod Mamau.'

Yn y diwedd diswyddwyd Malcolm Sparkes ei hun gan Hobson a'i blaid; aeth y Guild Cenedlaethol o waeth i waeth, a darfu mewn methdaliad ariannol a moesol.

Felly fe drowyd y cloc yn ôl am genhedlaeth gan wŷr a oedd yn rhy brysur i oddef tyfu gwreiddiau graddol a diwyllio ysbryd a chydweithrediad. Gwir a ddywedodd Lloyd George am Folsiefiaeth, "Trefnyddiaeth ddiamynedd"; a gallesid cymhwyso'r un gair at lawer math ar unbennaeth mewn byd ac Eglwys. Hanfod moddion gweriniaeth, yn ôl Meistr Coleg Balliol, ydyw trafodaeth rydd ac argyhoeddiad cyffredin, ac nid cyfrif pennau difeddwl mewn etholiad pwyllgor na Senedd. Ond nid aeth gweledigaeth ac anturiaeth Malcolm Sparkes yn ofer. Yn y diwydiant adeiladu daliwyd at yr arfer a gychwynnodd o gyd-ymgynghori rhwng meistr a gweithwyr, ac achubwyd y diwydiant eang rhag un anghymod ac ymrafael o bwys am flynyddoedd lawer.

O DAN Y DDEDDF

Pan yn gweithio, o dan y ddeddf, ar y ffordd fawr yn Sir Gaerfyrddin yn 1918 deuthum i sylweddoli peth o'r dirmyg a'r trais a deimlwyd gan hen navvies a gweithwyr y ffordd. Annheg a fyddai galw dynion o'r fath yn unskilled labour;