Tudalen:Profiadau Pellach 01.djvu/33

Gwirwyd y dudalen hon

credai fod y rhyfel yn gosb Duw ar Ewrop oherwydd pechod y Diwygiad Protestannaidd. Nid oedd gennyf ond plygu fy mhen, a myned allan yn drist gan synnu wrth yr athrawiaeth a oedd yn barotach i andwyo cymeriad Duw na chyfaddef gwendidau ei gyfundrefn enwadol.

Ymhen blynyddoedd erlidiwyd y Tad Bernard gymaint gan blaid eithaf y Protestaniaid—y Kensitites Uchel-Brotestannaidd a ddrylliodd allor a darluniau ei eglwys, nes iddo dorri ei galon a chlafychu a diweddu ei einioes yn Eglwys Rufain. Ond gŵr tyner a charuaidd a maddeugar ydoedd, a chredaf fod ei enw, fel enw Keir Hardie, o fewn y cyfamod. Ei gamgymeriad, efallai, oedd disgwyl i'w hawl gyfreithiol fel rheithor plwyf ganiatau iddo dorri llythyren y ddeddf, a bod yn Gatholig yn lawn ystyr y gair, ac felly daeth i afael gwŷr y llythyren, a dioddef eu sarhad. Felly hefyd y dioddefodd yr Esgob Barnes yn ei dro, gan wŷr eithafol plaid yr Uchel Eglwyswyr, wrth iddo geisio eu rhwystro yn eu seremonïau a oedd yn groes i'r Llyfr Gweddi Gyffredin. Yn wir, gefail arw yw'r ddeddf i drin troseddwyr da a drwg. [1].

Y CYFANDIR

Lledaenwyd cyfle'r Genhadaeth Hedd yn 1922 gan wahoddiad i deithio trwy wledydd Norwy, Sweden a Denmarc. Nid anghofiaf daith y gaeaf dros Fôr y Gogledd, a'r croeso a gefais yn nhrefydd bychain y Fjords gan athrawon, pysgotwyr, morwyr ac eraill, yn Bergen, Stavanger a Haugesund, a'r gwrandawiad astud i egwyddor a phrofiad heddychwr. Yn Sweden cefais wahoddiad gan gyfaill i dreulio diwrnod gyda'r gŵr enwog a chatholig hwnnw, yr Archesgob Soderblom o Upsala. Ni bu gweinidog gwlad yn ei astudfa yn fwy cartrefol a syml na'r Archesgob a'r ysgolhaig a'r arweinydd hwn. Yr oedd mewn cryn bryder am yr hyn a glywodd yn ddiweddar gan gyfaill a oedd newydd ymweled â'r Ruhr yn yr Almaen, a feddiannwyd gan fyddinoedd y Ffrancwyr, a hawliodd wragedd o'r Almaen fel puteiniaid i'w milwyr negroaidd. Y diraddiad hwn, yn fwy na dim, a wenwynodd ysbryd yr Almaenwyr yn eu gwae a'u gwarth, Credai'r Archesgob fod perygl gwenwyno ysbryd Ewrop oll gan y fath

  1. Gweler Twenty Years at St. Hilary (Bernard Walke)