gwn y teimlwch chwi fel finnau weithiau-pan fyddwyf gydag un set o bobl, teimlaf ryw annigonolrwydd ac awydd am fod gyda'r set arall." Gwyddwn am y profiad yn dda-y dyhead, yng nghylchoedd crefyddol esmwyth ac ystrydebol, am weled wyneb gwŷr gwerin a'u geiriau garw gonest; ac ymhlith y rheini wedyn, hiraeth am naws a dwyster Puleston. Yn wir, mewn rhan y gwelwn ac mewn rhan y proffwydwn. Fe'm gwahoddwyd gan Mr. Arthur Henderson i fynychu cynghorau'r Blaid Lafur a chael y Chwip. Eglurais. innau fod rhyddid llais a chydwybod yn rhy ddrud gennyf i ymrwymo wrth blaid a Chwip, a'm bod yn hytrach yn ceisio "tynnu'r ddwyblaid ddig yn un" yn lle chwennych buddugoliaeth plaid gan fwyafrif ar leiafrif anfoddog. Wedi i mi osod y pethau hyn mewn llythyr, gwahoddwyd fi fel dyn rhydd i'w cyngor. Cofiaf ymgynghori â Llafurwr a oedd yn heddychwr ac yn Grynwr am y buddioldeb o anfon i'r Prif Weinidog gylch-lythyr wedi ei arwyddo gan y rhai a deimlai mai heddwch gwirioneddol â'r Almaen oedd y cam cyntaf a phwysicaf gerbron y Senedd. Cydwelodd yn hollol, ond pan awgrymais y byddai nifer o Ryddfrydwyr a rhai Toriaid yn barod i arwyddo'r apêl, syrthiodd ei wyneb a dywedodd, "Yr oedd ymddygiad y Rhyddfrydwyr yn ffiaidd yn yr etholiad, yn ein galw yn Folsiefiaid a phopeth."
"Ond," meddwn, "beth am ——?" gan enwi Rhyddfrydwr, a oedd yn heddychwr ac yn Grynwr. "Na, yr oedd yntau yn y busnes hefyd."
Deallais yn fuan mor gyndyn oedd rhwymau ymbleidiaeth yn y Tŷ, nid yn unig oherwydd y Chwip, a'r etholaeth, a'r safle, a'r sicrwydd o'r 400p. yn y flwyddyn, ond y teimlad fod pob un a âi'n groes i "ffrynt unedig" y blaid, yn cael ei gyfrif yn granc neu'n fradwr. Y tu allan i'r Tŷ, yn y Lobi, gwelid Tori a Rhyddfrydwr, Sosialwr a chyfalafwr yn siarad yn eithaf rhydd, ond yn y Senedd a'r wlad yr oedd pawb dros. ei blaid ym mhopeth, nes i'r Prif Weinidog ei hun ddweud fod aelodau wedi myned yn cyphers diystyr dan Chwip eu plaid. Deallais hefyd fy mod innau "tan y ddeddf" fel pris fy hawl yn y Senedd, a bod pob pleidlais mwyafrifoedd yn treisio barn lleiafrif, yn peri ystrywiau rhwystrol diddiwedd gan yr Wrthblaid. Gorfodaeth hefyd oedd pob gweithred Seneddol, gan ddeddf a dirwy a chosb, ac nid oeddwn innau'n rhydd i osgoi dadlennu a chosbi trosedd o'r ddeddf gan gâr a chyfaill gwleidyddol fy hunan. Parodd yr anaws-