Tudalen:Profiadau Pellach 01.djvu/46

Gwirwyd y dudalen hon

Modd bynnag cafwyd y bleidlais a thaflwyd allan Lywodraeth a wnaeth lawer mewn byr amser i wella sefyllfa Ewrop. Yn olaf peth, ysgydwais law a'r hynod E. D. Morel, y gŵr a wnaeth gymaint i ddadlennu erchyllterau Belg ar frodroion y Congo, a hefyd yr ystrywiau diplomyddol rhwng y cenhedloedd cyn y rhyfel yn ei lyfr Truth and the War, ac a gafodd chwe mis o garchar am anfon copi o'r llyfr i'w gyfaill Romain Rolland yn y Swistir. Diolchais iddo am feiddio dal at "y gwir yn erbyn y byd" trwy'r blynyddoedd. Daeth dagrau i'w lygaid, daliodd yn fy llaw. Bu farw ymhen ychydig fisoedd. Gŵr na chafodd y parch dyladwy gan ei wlad, ond a geisiodd gadw Prydain at ddelfrydau gwirionedd a thrugaredd, ac a dorrodd ei galon yn yr ymdrech.

Dysgodd fy mhrofiad byr yn y Senedd ystyr ddyfnach i'r gair a roddais yn fy anerchiad etholiadol, sef, "Gwell bod yn rhydd mewn carchar, na bod yn gaeth mewn llys." Fel y canodd Pantycelyn:

"Mae dyfais parch, mae dyfais clod,
Mae dyfais bod yn fwy

yn wreiddiau cuddiedig i lawer o'r anghymod sydd mewn gwleidyddiaeth a Senedd. Profwyd gan hanes Lloyd George, Lansbury a Ramsay Macdonald fel ei gilydd, fod gelynion dyn, mewn gwleidyddiaeth, yn aml "o'i dy a'i dylwyth ef ei hun," a bod y dorf, fel y galon, "yn fwy ei thwyll na dim." Y drwg yw fod byd ac Eglwys wedi dysgu cyfrif pennau a barnu llwyddiant wrth swydd a phoblogrwydd. Yn y dyddiau hynny agorwyd drysau cynadleddau crefyddol i mi led y pen, mewn modd gwahanol iawn i'r hyn a fu yn nyddiau'r genhadaeth hedd yn y rhyfel; ond buan y caewyd hwynt ac y daliwyd fi led braich pan gymerais ochr amhoblogaidd drachefn. Modd bynnag, dysgais fod clicied y drws i frawdoliaeth rydd, fel i ryddid yr Efengyl, yn is o lawer na llwyfan Senedd a Sasiwn ac na allai'r dorf na chynrychiolwyr y dorf fyned yn hawdd drwy borth cyfyng rhyddid ysbrydol.

ADDYSG

Profiad pwysicaf yr aelodaeth Seneddol, efallai, heblaw y cyffyrddiadau personol lawer â dynion o bob math, a phlaid ac enwad, ydoedd y cyfarfodydd o'r graddedigion a oedd yn athrawon yn ysgolion Cymru. Cymhellais hwynt i weithio