Addysg pan basiwyd Mesur Ysgolion Canolraddol Cymru. Soniodd yr hen ŵr gyda hiraeth am ddyddiau'r brwdfrydedd gynt yng Nghymru am addysg, am ei gyfeillgarwch â Tom Ellis, am ei dŷ yng Nghlynnog Fawr, am orymdaith fawr o chwarelwyr a welodd ym Mlaenau Ffestiniog i wrando arno'n annerch ar ddelfrydau addysg i Gymru, ac am gyfraniadau gweithwyr a gwladwyr i godi ysgol sir a choleg. "Ni welais y fath sêl dros addysg yn unman yn Ewrop, ebe'r hen ŵr, "ond sut y mae'r cwbl yn gweithio allan?" Ni allwn ond plygu fy mhen wrth feddwl am eiriau Syr O. M. Edwards a Syr Alfred T. Davies, ei olynydd, am siboleth yr arholiad a'r certificate, a dywedais fy mod yn ofni i'r pethau hyn fyned yn eilunod yng Nghymru. Gofidiai'r hen ŵr. "O'm rhan fy hun hoffwn weled gwneud i ffwrdd â'r arholiadau i gyd," meddai, gan gyfeirio at adroddiad rhyw bwyllgor o'r Bwrdd Addysg.
Eleni fe gyhoeddir o bennau'r tai am ddrwg yr eilunaddoliaeth o'r certificate, a gyfaddefwyd ugain mlynedd yn ôl gan athrawon ystyriol yng Nghymru. Onid yw Papur Gwyn y Gweinidog Addysg, ac Adroddiad Norwood ar Addysg Ganolradd yn cyfaddef y cam gafodd cenhedlaeth o blant y gallesid eu gwaredu pe buasai arloeswyr a diwygwyr ddigonol i'r cyfle ym mhlith athrawon Cymru. Onid trwy arloeswyr a gwirfoddolwyr, ynghanol eilunaddolwyr y gyfundrefn, y bu pob diwygiad mewn crefydd ac addysg?
Fel yn yr Eglwys, felly yn yr ysgol, y mae rhyw ymdrech wastadol rhwng sant a swyddog; y mae'r ddelfryd yn mynd yn ddelw, ac ysbryd yn creu cyfundrefn, a'r gyfundrefn yn llethu’r ysbryd. Wrth ymweled ag ysgolion gwlad, a chyfarfod athrawon, cefais olwg ar y gwahaniaethau dirfawr a allai fodoli rhwng ysgolion dau bentref yn yr un cwmwd neu yn yr un dref. Dywedai prifathro diwylliedig yn Chwilog wrthyf ei fod wedi alltudio'r gosb ers blynyddoedd a bod y gwrthwynebiad i hynny wedi dod oddi wrth flaenoriaid y capel a amheuodd fod ymarferiad gras o'r fath yn groes i'r Ysgrythur. Cofiaf weinidog ym Mhen Llŷn yn dweud wrthyf fod athro ieuanc "wedi gweddnewid wynebau plant yr ardal." Euthum yn un swydd i Fynydd y Rhiw i gael gweled y rhyfeddod. Wedi myned i'r ysgol, hawdd ydoedd credu gair y gweinidog. Yr oedd rhyddid naturiol a hoffus y plant yn eu cadw'n ddistaw pan oeddwn yn ymgomio â'r athro, ond ni rwystrwyd iddynt ymgomio'n dawel na chodi o sedd