Tudalen:Profiadau Pellach 01.djvu/52

Gwirwyd y dudalen hon

ac i gyffyrddiad llaw y bywyd beunyddiol. Fe andwywyd y Seiat fore am 12 mlynedd gan ddadleuon diwinyddol dansoddol a di-fudd rhwng Harris a Rowlands, ac eraill ar eu hôl, oedd heb ddysgu goddef barn wahanol a rhyddhad o ddeddfoldeb y llythyren i chwilio'n ddyfnach am gymod meddwl a chalon. Ond ni ellir darllen "Drws y Seiat Brofiad" gan Williams Pantycelyn heb ganfod mor ddwfn oedd ei ddehongliad o angen yr holl ddyn yn y Seiat, a'i gynllun ar gyfer angen a diwylliant calon, meddwl a gweithred cydweithredol. Yr oedd dull a threfn diwylliant ysbrydol Pantycelyn yn hynod debyg-a chan mlynedd o'u blaen—i ddulliau'r proffwyd Grundtvig yn Nenmarc; pe buasem wedi dilyn gweledigaeth Pantycelyn, yn hytrach na mesur llwyddiant crefydd wrth gyfrif eisteddleoedd a chynulleidfa—oedd, pwy a ŵyr na fuasai yng Nghymru heddiw y diwylliant crefyddol a'r amaethyddiaeth gydweithredol a wnaeth werin Denmarc yn batrwm i weriniaeth Ewrop? Yn wir dyna erfyniad athronwyr cymdeithasol fel G. D. H. Cole, ac addysgwyr fel Syr Richard Livingstone, yn awr—ar i ni ddechrau ar weriniaeth leol a chymdogol, ac addysg wir, wrth drafod profiad a bywyd yn rhydd gyda'n gilydd.

YR HEN ARCHESGOB[1]

Efallai mai oherwydd fy aml ymweliadau ag Ysgol Howel, Dinbych, y cefais lythyr oddi wrth Archesgob Cymru yn fy ngwahodd i ymweled ag ef pan fyddwn nesaf yn y Gogledd. Arferwn edrych arno yn nyddiau ieuenctid ac ymbleidiaeth Rhyddfrydiaeth fel prif elyn Ymneilltuaeth fy nhadau, a mawr oedd fy rhagfarn yn ei erbyn. Ef oedd testun darlith Lloyd George gynt ar "Esgobion yn gyffredinol ac Esgob Sant Asaff yn neilltuol"; atebwyd ef gyda'r un dilorniad gan yr Esgob, a soniodd am "Ragrith rhyfygus yr Anghydffurfwyr." Wedi i mi gyrraedd y Plas, derbyniwyd fi ganddo â'r hynawsedd mwyaf. Ar ôl cinio, aethom i'w lyfrgell. Siarad- odd yn rhydd ac yn annwyl am ei dad, a fu'n Rheithor Llanymawddwy, ac am ei fam, a ddysgodd Gymraeg, ac am yr hen frwydrau rhwng capel ac eglwys. Dywedai-fwy nac unwaith, gan ysgwyd ei ben, "Gormod o ymryson yn fy mywyd: triniwyd yr Anghydffurfwyr yn gywilyddus gan yr Eglwys, ac ad-dalwyd y cam ganddynt hyd yr eithaf." Dywedodd mor falch ydoedd o weled Lloyd George yn galw, pan

  1. Alfred George Edwards