cariad" a dynn galonnau ynghyd, wrth gofio mai "crwydr- iaid a phererinion ydym ar y ddaear." Nid yn ddiystyr y cadwyd Gwyl y Pebyll fel defod flynyddol gan yr hen genedl rhag iddynt anghofio'r ffaith hon.
Cyfarfum yn aml ag athrawon, a gwahoddais nifer o brif- athrawon ysgolion elfennol ac ailraddol Cymru, ynghyd â phrifathro'r Liverpool Institute, i ystyried ynghyd ofynion gwir addysg grefyddol. Dyna oedd eu casgliad, nad mater o ddysgu gwersi Beiblaidd, na chanu emynau, ydoedd addysg grefyddol, ond bywyd, cydweithrediad, gras a gwirionedd ymarferol yng nghymdeithas ddyddiol yr ysgol. Nid oedd sail i ddisgwyl cydweithrediad ar y tir rhwng amaethwyr a addysgwyd i gystadlu yn erbyn ei gilydd ym mywyd yr ysgol a'r ffair. Amcan addysg ydoedd deffro meddwl, dangos egwyddor, deall diwylliant eu cymdeithas, a dysgu sut i fyw gyda'i gilydd.
Cofiaf ymhen blynyddoedd wedi hyn, ymweled â'r annwyl a'r dysgedig Ddr. Prys Williams, Prif Arolygydd ysgolion Cymru, yn ei waeledd olaf. Pur ddigalon ydoedd am ei waith ynglŷn â'r ysgolion. "Cofiaf pan oeddwn yn llanc yn Chwilog," meddai, "ddwsin o ddynion gwreiddiol y gallasech ddisgwyl barn annibynnol, ddeallus, ganddynt ar gwestiwn o wleidyddiaeth neu ddiwinyddiaeth; ond heddiw, wedi hanner can mlynedd o addysg ysgol, ni allaf feddwl am ddau cyffelyb iddynt yn y pentref." Nid oedd ei brofiad yn fwy digalon na chyfaddefiadau diwethaf Syr Richard Livingstone, yn ei lyfr, The Future in Education, sydd yn troi'n ôl at ddiwylliant gwerin a phrofiad bywyd a thrafodaeth agored o drefn yr Efengyl fel moddion addysg wirioneddol.
RHYFEL YNG NGHYMRU
Wrth geisio, yn ôl penderfyniadau'r Sasiynau, barhau i oleuo aelodau'r eglwysi ar achosion rhyfel sydd yn eu cyrraedd ac yn gyfrifoldeb iddynt, nid ellir anwybyddu y rhyfel diwydiannol a fu wrth eu drysau. Yng nghymoedd y De trwythwyd yr Undebau Llafur gan athrawiaeth Karl Marx, a ddysgai fod rhyfel dosbarth cyfalaf a llafur yn "achos mawr tu ôl" i ryfel gwledydd a phleidiau. Dengys adroddiad y Comisiwn Ymchwil, a benodwyd yn 1917, dan lywyddiaeth yr enwog a'r annwyl Syr Lleufer Thomas, i archwilio achos-