ion anghymod diwydiant yn Ne Cymru, fel y bu ymrafael sectau, a hen gweryl capel ac eglwys yn feithrinfa i ysbryd plaid. At hynny, rhaid oedd cofio dylifiad y dynion dod i'r cymoedd o Fryste, Dyfnaint a Gwlad yr Haf, heb fawr o draddodiad crefyddol. Ond o bob achos, y cryfaf ydoedd dylanwad delfrydau Sosialaidd yr "I.L.P." (y Blaid Lafur Annibynnol) a dynnodd gymaint o gefnogwyr o blith y rhai a ddeffrowyd gan Ddiwygiad 1904 i geisio cyfiawnder cymdeithasol. Wedyn y daeth yr athrawiaeth Farxaidd a materol, a ddylanwadodd yn fawr ar yr arweinwyr ieuainc, drwy foddion y Central Labour College a gynhaliwyd gan Undeb y Glowyr ac Undeb Gwŷr y Rheilffyrdd. Yn ôl yr athrawiaeth Farxaidd, a ddysgwyd yno, yr oedd y rhyfel dosbarth yn rhan o ddatblygiad anocheladwy, a'r moddion gwaredigaeth i'w cael mewn Undebiaeth ddiwydiannol orfodol, nes rheoli o'r diwedd yr holl foddion cynhyrchu. Yn ôl adroddiad y Comisiwn, "Nid oes un rhan o'r wlad yn dal yr athrawiaeth hon mor eang, ac yn ei phregethu mor gyson, â rhanbarth lo Morgannwg a Mynwy."
Yn 1917 nid oedd llai na 500 o efrydwyr y De yn nosbarthiadau'r Coleg Llafur, yn dysgu athrawiaeth Marx am y rhyfel dosbarth, ac yr oedd eu dylanwad yn ehangu'n gyflym iawn mewn gelyniaeth anghymodlon tuag at y gyfundrefn gyfalafol, ac mewn ymdrech am reolaeth lwyr o ddiwydiant gan y gweithwyr. Cynyddodd y dylanwadau chwyldroadol hyn yn yr ugain mlynedd dilynol nes o'r diwedd y pleidleisiodd 12,000 dros yr ymgeisydd Comiwnyddol yn yr etholiad diwethaf, ac yn erbyn y Sosialydd Marxaidd yn y Rhondda. Heddiw y mae Llywydd Undeb Glowyr y De yn Gomiwnydd agored. Ffaith gwerth ei hystyried yw bod arweinwyr plaid yr Aswy yn y Rhondda—A. J. Cook, Frank Hodges, W. Mainwaring ac Arthur Horner, wedi eu codi, a'u colli hefyd, o'r capelau, oherwydd diarddeliad, neu ddilorniad o'u syniadau. Yr oedd hen Sosialaeth yr "I.L.P.", dan arweiniad gwŷr crefyddol, fel Keir Hardie a Bruce Glasier, heddychwyr a ddaethant yn nes-nes at ysbryd a moddion yr Efengyl cyn eu diweddu. Trueni ydoedd diffyg pont yn yr Eglwys rhwng y ddwyblaid a oedd yn datblygu y tu mewn a'r tu allan i'r capelau. Cyffes olaf Keir Hardie i'w gymrodyr oedd:
"Fy nghyfeillion a'm cymrodyr; weithiau yr wyf yn glaf o galon gan wleidyddiaeth a phopeth a berthyn iddi; pe bawn ddeng mlwydd ar hugain yn iau, credaf y gadawswn dŷ a chartref, gwraig a phlentyn i bregethu holl Efengyl Iesu Grist."