Torrodd ei galon pan floeddiwyd ef i lawr yn ei etholaeth ei hun yn Aberdâr pan yn ceisio eu darbwyllo o nwydau y rhyfel diwethaf.
Yn 1921 cofiaf ysgrifennu'n daer at un o brif berchenogion pyllau glo y Rhondda a oedd hefyd yn flaenor Methodist, i erfyn arno geisio "cymodi â'i wrthwynebwyr ar frys" tra oedd y cyfle'n agored a'r bwlch heb ymagor ymhellach. Atebodd fod ei gwmni eisoes wedi paratoi cynllun i rannu'r elw gyda'r gweithwyr, ond nad oeddynt am ei hysbysu ar y pryd rhag iddo ddangos gwendid yn wyneb y bygythiadau. Yr wythnos wedi i'r frwydr fawr ddechrau, gwelais yn Llundain James Winstone, Llywydd Glowyr y De. Holais ef beth oedd yn bosibl i ddyn o ewyllys da o du'r perchenogion ei wneuthur i bontio'r gagendor oedd eisoes yn llyncu elw a chyflog a chysuron bywyd miliynau? Atebodd y gallai'r cyfryw un gytuno â chais y gweithwyr am gronfa ganolog i wastatau'r cyflogau, ond cyfaddefai na allai wneuthur hynny heb gael ei ystyried yn "fradwr" gan Undeb y Perchenogion. Yna dywedodd: "Yn bersonol, nid wyf o blaid ymladd am genedlaetholi'r pyllau glo; o'm rhan fy hunan, buaswn yn barod i dderbyn cynllun Arglwydd Gainford i rannu'r elw." Trychineb yr ymrafael ofer hwnnw ydoedd fod y perchennog blaenaf a'r Undebwr blaenaf, y naill wedi paratoi, a'r llall yn barod i dderbyn, cynllun i rannu'r elw, ond na allai'r naill na'r llall ddatgan ei argyhoeddiadau personol, oherwydd eu hymrwymiadau i'w plaid eu hunain. Diwedd yr helynt oedd gorfodaeth gan y Llywodraeth, heb na gras na chymod, o gynllun i rannu'r elw.
Cofiaf tua diwedd y frwydr yn 1921 ddychwelyd o Iwerddon a myned, ar, wahoddiad cyfaill crefyddol, i genhadaeth hedd ym Mhont-y-pridd. Wedi cyrraedd, deallais nad oedd ganddo yr un cynllun na chyfarfod wedi ei drefnu; bu raid i ni'n dau fyned ar hyd yr heolydd gyda darn mawr o sialc ac ysgrifennu ar y palmant y byddai cyfarfod ar y Comin. Daeth rhyw ddwsin ynghyd y noson gyntaf, ond erbyn y drydedd noson yr oedd cannoedd o lowyr yn bresennol yn yr awyr agored. Eglurais wrthynt fy argyhoeddiad fod rhyw- beth rhy fawr mewn dyn i gael ei orfodi'n derfynol, boed gyflogwr neu weithiwr, i rywbeth a welai'n groes i gyfiawnder a thegwch; ac felly nid oedd obaith i'r streic lwyddo yn y pen draw. Holai Comiwnydd a oedd yn bresennol: "Ai ystyr eich cenadwri yw y dylai'r ŵyn fod yn barod i gael eu