daeth fy nghyfaill i'm hystafell-wely i awgrymu ysbaid o dawelwch a gweddi am fendith ac arweiniad yn ein cais. Synnais braidd at hyn, am ei fod gynt yn gapten yn y fyddin ac yn fab i Gyrnol, a heb broffesu crefydd yn amlwg. Y bore canlynol cefais ei fod wedi ymadael o'r gwesty, a bwyteais fy mrecwast ar fy mhen fy hun mewn peth penbleth; ond toc dychwelodd ac eglurodd ei fod wedi mentro myned yn fore at dŷ Ramsay Macdonald, a chael ymgom ag ef, ac erfyn arno, os camgymeriad a chamarweiniol oedd y Streic Gyffredinol, y dylasai ef ei gwrthwynebu'n gyhoeddus yn ei blaid ac yn y wlad. Euthum innau y prynhawn at yr Arglwydd Salisbury a chefais ef yr un mor siriol a chwrtais â phan oeddym gynt yn farnwr a throseddwr. Wedi i ni siarad peth am bethau personol, a chan y gwyddwn ei fod yntau'n cael yr enw o fod yn arweinydd i'r Ceidwadwyr diehard anghymodlawn, mentrais ddweud wrtho mai gwendid, yn ôl safon Crist, ydoedd torri'r drafodaeth â'r Trades Union Council a thaflu'r achos i ymgais anfoesol y nerth a'r llu, a'r trechaf treisied. Atebodd y cyfaddefasai hynny, pe bygythid ei blaid, ond yr oedd bygythiadau ac osgo Llafur yn peryglu holl Gyfansoddiad a Senedd Prydain, wrth fygwth gyrru'r holl wlad i anarchiaeth. Cyfaddefodd hefyd ei fod yntau'n ŵr plaid ac yn aml yn gorfod gweithredu ar lefel is na'i ddelfryd ei hun, ond, ei fod yn gobeithio, heb anffyddlondeb i ddisgyblaeth Crist yn ôl ei oleuni.
Disgrifiais innau gyflwr a chyflog y glowyr, ac atebodd ar ei union nad oedd am foment yn cymeradwyo plaid y perchenogion. Wedi siarad yn hir am hyn a'r llall, dywedais wrtho ein bod wedi siarad am lawer o bethau ac nad oeddwn yn sicr a ddeallai fy amcan wrth ddyfod i'w weled. Gwenodd ac ymaflodd yn fy llaw, "Yr wyf yn eich deall yn berffaith, ac yn gallu eich sicrhau chwi nad yw eich ymweliad yma yn ofer." Teimlais, wedi ffarwelio ag ef, a cherdded-strydoedd Llundain, a chofio'r digalondid y noswaith gynt, fel pe buasai Boneddwr mwy na'r Ardalydd Salisbury yn gwenu hefyd ac yn dweud, "O chwi o ychydig ffydd." Cadwyd y cysylltiadau cyfeillgar hyn ar hyd y blynyddoedd. Cefais lythyr oddi wrtho fis yn ôl, yn holi fy hanes, a dweud ei fod wedi meddwl yn aml am yr hyn a fu rhyngom 25 mlynedd yn ôl.
Y prynhawn hwnnw euthum i Swyddfa y "T.U.C." a gynrychiola Fudiad Llafur ac Undebau Llafur y deyrnas.