Cefais air gydag Arthur Henderson ac arweinwyr eraill, ac ymgom gyda'r Athro Laski, cynghorydd economaidd y blaid. Gofynnais iddo beth oedd amodau heddwch gwirioneddol a fuasai'n foddion i godi pont dros y bwlch. Atebodd nad oedd slogan A. J. Cook, "Not a cent, not a second," i'w chymryd o ddifrif, ond y byddai raid dosbarthu'r pyllau glo yn dri dosbarth: (1) Y rhai a dalent; (2) Y rhai mewn angen am gymorth y Llywodraeth am ryw hyd; a (3) Y rhai y dylid eu cau yn ddi-oed a symud y gweithwyr i ddiwydiannau eraill.
Euthum oddi yno, ar gymhelliad St. Loe Strachey, y Ceidwadwr a Golygydd y Spectator, i weled Syr, Alfred Mond (wedi hynny Arglwydd, Melchett) prif berchennog pyllau y glo carreg yn Sir Gaerfyrddin, a chynrychiolydd y perchenogion Rhyddfrydig. Ni welais ŵr erioed a atebai'n well i'r enw "Iddew Babylonaidd"; yr oedd moethau ei dŷ a dillad ei weision lifrai yn peri syndod bod y fath ddyn yn rheoli glofeydd Sir Gaerfyrddin, ac yn cynrychioli Cymry a chrefyddwyr yn y Senedd. Wrth siarad, rhegai fel cath, ond yn erbyn y perchenogion y rhegai fwyaf, am eu diffyg gweledigaeth a'u diffyg gwybodaeth o gyfundrefnau'r Almaen i'r diwydiant glo. Tosturiai dipyn dros y "diawliaid druain" o lowyr, am a wyddai nad oedd ganddynt obaith buddugoliaeth. Yna eglurodd ei gynllun i bontio'r gagendor, ac er fy mawr syndod, yr oedd ganddo bron yr un syniadau â'i gyd-Iddew, yr Athro Laski.
Pan dynnwyd yn ôl gymorth y "T.U.C." o rengoedd y glowyr, a slogan ymladd yr ymladdwr Cook, diweddodd y Streic Gyffredinol, a mawr a fu'r galw "bradwr" ar arweinwyr gwŷr y rheilffyrdd ac eraill, am dynnu'n ôl o'r frwydr, a gadael y glowyr i ymladd eu hunain. Parhaodd y frwydr a'r dioddef erchyll yn y cymoedd glo hyd fis Rhagfyr 1926, hyd onid oedd buddugoliaeth y perchenogion yn amlwg. Truenus yw meddwl am ddioddefaint ofer y miloedd, y gwasgaru ar deuluoedd a chymdogion, yr anystyriaeth o'r ffeithiau sylfaenol ynglŷn â'r iawndal, a pha mor agos oedd syniadau arweinwyr blaenaf y naill ochr a'r llall at ei gilydd. Ond pan ddechreua rhyfel, distawa rheswm. Yr oedd y wasg ddyddiol yn dal i chwythu'r tân yn ôl eu plaid, hyd oni losgwyd sylwedd yr ymladd, sef elw'r perchenogion a chyflog y gweithwyr, a chysur teuluoedd tlodion am ddeuddeng mlynedd. Wedi'r rhyfel cartref ymfudodd dros