troseddwyr, nac ymbellau o gyfeillach y rhai nad oeddynt "o'r gorlan hon," yn arbennig y Crynwyr. Wedi hir ymgom, a thrafodaeth llythyrau wedyn, atebodd nad oedd yr un rheswm, yn ôl ei farn, i mi beidio ag ymaelodi'n rhydd ac yn agored. Cyhoeddwyd ein llythyrau yn Y Goleuad a derbyniwyd fi'n aelod yn y capel bach cyfeillgar.
Ymhen rhyw flwyddyn fe'm gwahoddwyd i fod yn weinidog i gapelydd bychain yn Nhowyn a Chwm Maethlon. Ceisiais egluro fy syniadau a'm hargyhoeddiadau yn glir iddynt, ond daliasant yn eu gwahoddiad. Felly teimlais na allwn wrthod yr alwad, ond ceisio gweithio allan y Genhadaeth Hedd mewn cylch arbennig. Eglurais fy argyhoeddiad drachefn, wrth gael fy ordeinio yn Sasiwn y Rhos, gan ddangos i'r llywydd a darllen yn yr arholiad cyhoeddus, y datganiad, "Tra nad ydwyf yn bwriadu gwrthwynebu rheolau'r Cyfundeb, yr wyf yn credu, pe caem ein harwain gan ysbryd Duw, y buasem yn dod yn wir gymdeithas o gyfeillion." Yn wir, synnwyd fi gan ehangder a sirioldeb eu derbyniad, heb neb yn tynnu'n groes. Cefais hefyd bob rhyddid a charedigrwydd a chydweithrediad gan frawdoliaeth capelydd bychain Towyn a Chwm Maethlon heb un cerydd na thramgwydd i'm cenhadaeth agored, na chan yr eglwysi y pregethais ynddynt.
Gwerthfawrogais yn fawr fraint y pulpud, ac yn fwy y gyfeillach a gefais ar aelwydydd y saint, ond teimlais angen mawr cyfeillach rydd yn yr eglwysi am y "pethau a berthyn i'n heddwch" ym mywyd beunyddiol y ffarm a'r chwarel a'r ffair. Gwyddwn am y bwlch a oedd mor fynych yng Nghymru wledig y tu allan i ddrws y capel rhwng ffarmwr a ffarmwr, meistr a gwas, cyflogwr a gweithiwr, capel ac eglwys, plaid a phlaid. Yn wir, ni bûm yn hir ym Meirionnydd heb ddarganfod bod traddodiadau a delfrydau Tom Ellis ac O. M. Edwards am ryddid, naturioldeb ac agosatrwydd y diwylliant Cymreig ymhell o gael eu sylweddoli yn eu sir eu hunain: Yn nhrefydd glannau'r moroedd yr oedd dilyw dieithriaid yr haf, a bywoliaeth y rhai a oedd yn cael eu bara beunyddiol ar wyneb y dyfroedd hynny, wedi magu rhyw waseidd-dra meddwl i'r Saeson goludog a chymffyrddus a ddeuai yno ar eu gwyliau, gyda'u harferion a'u syniadau suburban, a gwarant derfynol eu harian parod. Darfu am iaith a diwylliant y Cymry yn ystod yr haf, ac am gynulleidfa'r capelau i raddau yn y bore, ac am gymdeithas