gartrefol y dref yn y gaeaf. Dilynwyd hen unbennaeth Doriaidd boneddigion a thirfeddiannwyr ac eglwyswyr gan weriniaeth siopwyr, marsiandwyr a chyflogwyr, ac yr oedd y bwlch yn dal yn ddwfn rhwng Rhyddfrydwr a Thori, capel ac eglwys, cyflogwr a gweithiwr; nid oedd yn hawdd cymdeithasu'n rhydd a dringo dros gloddiau'r gwahanol gorlannau heb dramgwydd i'r naill neu'r llall.
Gwelais felly o brofiad fod y bylchau cymdeithasol a oedd yn rhwygo Ewrop i'w gweled ar raddfa lai, ac weithiau'n bechadurus o fychain, wrth y drws yn fy ngwlad fy hun, er gwaethaf clychau'r Eglwys a chyhoeddi cymanfaoedd yr Efengyl. Teimlais weithiau fod pwyslais ar gysuron a maddeuant Efengyl Crist, ar draul ufudd-dod i'w orchmynion a'i ethig, yn gwneuthur crefydd yn noddfa ond nid yn nerth i aelodau weithio allan Ei iachawdwriaeth mewn cymdeithas. Fel y dywedai Puleston, yr oedd cylchoedd ym mywyd cymdeithas, megis masnach, diwydiant, a gwleidyddiaeth, yn cael eu cadw ar wahan i grefydd, fel y reservations hynny yn yr Unol Daleithiau lle y caffai'r Indiaid Cochion fyw yn ôl eu harferion anianol. Yr oedd pawb yn canmol Trefn Gras i'r enaid, ac yn y Nefoedd, ond ychydig a oedd yn ei chredu'n ymarferol mewn llywodraeth plant yn yr ysgol, pechaduriaid agored yn y seiat, gweision ar y ffarm, a gweithwyr yn y chwarel. Mewn canlyniad, wedi ymgynnull i eistedd a gwrando am ddwy awr mewn wythnos, ymwasgarai'r addolwyr, pawb i'w le ei hun-ei ysgol, ei blaid, ei swydd, heb yr un arwydd efallai, yn y can awr o'r wythnos y tu allan i furiau'r capel, ei fod yn dal y Ffydd Gatholig neu'n ymarfer cyffredinolrwydd y saint. Pwysleisiwyd cymaint ar ryddid yr unigolyn gan Anghydffurfiaeth gynnar mewn crefydd, a chan Ryddfrydiaeth mewn gwleidyddiaeth a masnach, nes anghofio'n aml gyfuno cymdeithas y saint â chydweithrediad dinasyddion crefyddol.
Mewn ambell ysgol wlad, yr oedd curo a chramio'r plant yn dal mewn cyflawn arfogaeth, fel yn hanes O. M. Edwards yng Nghlych Atgof o'i blentyndod yn ysgol Llanuwchllyn. Gwir bod Williams Pantycelyn a'r Methodistiaid cyntaf wedi sefydlu'r seiat yn unswydd i drafod a thrin angen ysbrydol, meddyliol a thymhorol y saint; ond pan aeth y Cyfundeb yn barchus yn y byd, datblygwyd y gyfundrefn ddeddfol a chyffredinol ar draul y cyfuniad lleol a phersonol; cynyddodd y cyrddau mawr ar draul y cyrddau bach.