Yn y llythyr olaf a gefais ganddo ar y mater cyn myned i Sasiwn y De dywedodd:
"Gwn y bydd yn hollol ofer i ddadlau hawl deddfol, ac ni wnaf hynny. Gwn hefyd ei fod yn ofer gwrthwynebu'r ysbryd sydd yn y De. Rhaid iddo weithio allan ei gwrs; ei gyffroi a'i gryfhau a fyddai ei wrthwynebu. Felly bwriadaf fyned i'r Sasiwn, nid i wrthwynebu dim, na chodi fy llaw, ond i fod yn ddistaw a gwrando. Y mae Un sydd uwch na mi yn gwylied cwrs pethau, a gadawaf fy achos yn Ei law. Os wyf yn cyfeiliorni, fe ddengys bywyd hynny; os yw'r Sasiwn yn annheg, fe ddwg bywyd bethau i'r golau. Teimlaf ymostyngiad llwyr i drefn pethau. Ymdrechais, yn drwsgwl iawn efallai, wneuthur pont rhwng y ddwyblaid. Gelwir hyn gan rai yn y Tumble yn 'double game', a drwgdybia rhai yn y Sasiwn, ac fe'i defnyddiant i'm niwed. Popeth yn dda; yr wyf yn eithaf bodlon. Os bwrir fi allan o'r Corff, af yn dawel a heb ddicter. Hwyrach mai i hynny y mae pethau yn arwain; nis gwn. Rhaid gadael i'r drwg ei weithio ei hun allan, heb ei wrthwynebu na'i ymladd. Dyna'r peth iachaf i'r Hen Gorff ac i'r wlad ei adael heb ei wrthwynebu, heb geisio newid y proses, heb fod yn anfodlon i fyned allan, a hynny dan gwmwl a cham, am y teimlaf yn wir fod barn dyn yn y diwedd yn llaw Duw, ac nid yn llaw dynion. Bron nad erfyniwn arnoch i beidio â gwneud dim i rwystro'r llif, ond gadael iddo lifo a gwneud ei waith."
.
Ymhlith meibion Cymru, nid adwaenais yr un gŵr mwy dewr a dwys a dwfn ei ddynoliaeth na Tom Nefyn; cyfunai yn ei bersonoliaeth ddiwylliant gorau gwerin gwlad Llŷn, a dehongliad fodern o feddwl yr oes, ynghyd ag antur ac aberth ewyllys, a theimladrwydd cerddor a bardd. Diau iddo ddysgu y tu hwnt i'w frodyr, trwy glwyfau ei gorff a'i galon, yn ymgyrch y ddwy deyrnas, amynedd a ffydd y saint.
COLEG WOODBROOKE
Yn 1929, ar wahoddiad y Cyfeillion, euthum am flwyddyn i Goleg Woodbrooke. Hyfrydwch oedd gweled y Genhadaeth Hedd a geisiais yng Nghymru wedi ei sylweddoli mor bell yn ehangder a gras yr awyrgylch yno. Ffurfiwyd y Coleg fel noddfa a nerth i ymchwilwyr a oedd yn ceisio goleuni ac astudiaeth Ysgrythurol a chenhadaeth ymarferol yr Efengyl. Lleygwyr oedd y rhan fwyaf o'r efrydwyr, a hynny o bob enwad a chenedl. Fy nghyd-ysgolor ydoedd y Parch. John Hughes, cyn-Reithor yn Eglwys Loegr, a oedd hefyd wedi ymneilltuo o'i ofalaeth, gyda chaniatad a chydymdeimlad yr Archesgob, i chwilio allan egwyddorion ei Basiffistiaeth. Yr oedd yn athronydd diwylliedig ac yn efengylaidd ei ysbryd, ond ni theimlai'n hapus i ddal ei hawl i bwylseisio