gwaith da. I'r trydydd cwestiwn mynnwn ddweud yn ostyngedig: 'Ewch rhagoch, fy nghyfaill annwyl, er mwyn y Meistr annwyl, gan ymddiried Iddo egluro i chwi y ffordd fwyaf perffaith i gyflawni Ei ewyllys sanctaidd. Yr Arglwydd a'th geidw rhag pob drwg-Efe a geidw dy enaid." Dilynir chwi gan fy ngweddïau gwael, a bydded i ni gyd-gyfarfod yn y diwedd 'lle nad oes Roegwr nac Iddew, caeth na rhydd, ond Crist yn bob peth ac ym mhob peth'."
Wrth adnabod un gŵr Catholig a oedd yn gyfaill ac yn sant, fe lewyrcha goleuni tyner am ei holl dy. "Am Seion y dywedir: 'Y gŵr a'r gŵr a fagwyd ynddi, a'r Goruchaf ei hun a'i sicrha hi'." Cyfarfyddais ag offeiriaid cyffelyb ar y Cyfandir yn hiraethau ac yn ymestyn at ddyfodiad Ei deyrnas Ef. Felly loes a chlwy yw canfod a chlywed rhagfarn a chollfarn yn erbyn pob Pabydd. Ers blynyddoedd bellach, wedi gweini cymaint gyda'r Crynwyr, y mae fy ngobaith mewn catholigrwydd calon yn hytrach na chyfundrefn o un math; derbyniaf yn llawen gyffes y sant John Woolman, y Crynwr tlawd a ddeffrodd gyntaf gydwybod Americanwyr yn erbyn caethwasiaeth:
"Gosodwyd egwyddor sydd yn bur yn y meddwl dynol, yr hon sydd, mewn gwahanol fannau ac oesoedd, yn cael enwau gwahanol. Y mae yn bur ac yn deillio o Dduw. Dwfn a mewnol yw, heb ei chyfyngu i unrhyw ffurf ar grefydd, nac wedi ei chau allan gan yr un, pan saif y galon mewn cyflawn gywirdeb. Ym mhwy bynnag y gwreiddia ac y tyf, hwy a ddeuant yn frodyr."
Ni bydd chwaith, mewn iaith, ddim nôd—a glywsom
Ar Eglwysydd priod
"Rhufain" na "Groeg," ar ofod
Llwgr, ni bydd: na "Lloegr" yn bod.
Gelwir hwy fel ei gilydd—oll yn un
Llannau a Chapelydd,
Anghymwys dweud "Eglwysydd":
Un yw i fod, Un a fydd.
—EBEN FARDD.