CENADAETHAU PERSONOL A CHREFYDDOL
Iwerddon. Y Cyfeillion. Cenhadaeth Gartref. Cymod mewn Diwydiant. Diwydiant Adeiladu. O Dan y Ddeddf. Cenhadaeth yng Nghernyw. Y Cyfandir. Yr Almaen. Ein Cyfrifoldeb am Ewrop. Apel Cymdeithas y Cyfeillion. Cynhadledd Heddwch. Y Senedd. Addysg. Addysg Grefyddol. Addysg a Bywyd. Yr Hen Archesgob. Gwersyll y Bechgyn. Rhyfel yng Nghymru. Ymbleidiaeth Torf. Cynhadledd Oberammergau. Yr Eglwys. Tom Nefyn. Coleg Woodbrooke. Y Weinidogaeth.
IWERDDON
PRIN yr arwyddwyd Cytundeb Fersai cyn codi o chwyldroad a rhyfel yn Iwerddon. Wedi i'r Llywodraeth lethu ysgarmes ramantus gwrthryfel plaid fechan y Sinn Fein yn Nulyn yn 1916, lledaenwyd gorfodaeth grym drwy Iwerddon; carcharwyd miloedd o wŷr dieuog, hyd oni thyfodd anarchiaeth a gwrthryfel trwy'r wlad. Cofiaf imi weled yng Ngharchar Birmingham ugeiniau o garcharorion Gwyddelig, ac yn eu plith yr hen wron tawel, Count Plunkett. Ffurfiwyd byddin arbennig y Black and Tans at y gorchwyl o lethu'r gwrthryfel; llosgwyd pentrefi, a ffatrïoedd ymenyn yr amaethwyr, a dialwyd mwrdwr gan fwrdwr; dihangodd gwragedd a phlant y pentrefwyr yn fynych i gysgu i'r mynyddoedd rhag ofn y dialydd gwaed. Wedi'r Etholiad Cyffredinol yn 1918, sefydlodd y Sinn Fein Lywodraeth a byddin annibynnol yn ôl esiampl Protestaniaid Ulster. Yr oedd gweithredoedd y Black and Tans, dan Brif Weinidog a Chadfridog Cymreig (y Cadfridog Tudor) fel eiddo gwylliaid y Cyfandir, a throwyd y Cadfridog Crozier yn Heddychwr selog gan yr hyn a welodd yn Iwerddon. Nid oedd hyn oll yn adlewyrchu'n ffafriol ar ein proffes yn y rhyfel i ymladd am ryddid i'r cenhedloedd bychain, a daliodd yr Eglwys yr un mor ddi-weledigaeth yn y rhyfel cartref ag ydoedd yn y Rhyfel Mawr. Yn 1920 cyfarfum yn ddirgelaidd yn Iwerddon â ffoadur Gwyddelig, Desmond Fitzgerald, a fu wedyn yn Weinidog Tramor i Lywodraeth y Sinn Fein. Cefais wybod trwyddo delerau heddwch ei blaid, sef yr hyn a elwid yn Dominion Home Rule; ond, wedi cloffi rhwng dau feddwl, cwympodd y Prif Weinidog i du grym a goruchafiaeth drachefn. Credais y buasai cenadwri a chefnogaeth yr eglwysi yn atgyfnerthiad