Tudalen:Prydnawngwaith y Cymry.djvu/24

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

lynasant yntef yma, gan amcanu ei ymlid ef ymaith o'r wlad hon hefyd ; ond yn hyn hwy a siomwyd , Cynan a roddes godwm aruthr iddynt mewn ymladdfa waedlyd yn sir Hereford.

Yr ymryson hynod hwnw yn nghylch yr amser i gynnal gwyl y Pasg a ddyg- wyd yn mlaen yn y teyrnasiad yma, rhwng y Difinyddion Cymreig a Seisnig: gwraig ddysgedig yr hon a elwid Hylda a 'sgrifenodd yn mhlaid y Cymry, yn erbyn un Wilfrida, a mynachod coelgrefyddol eraill o Saeson.

Y Saeson a barhasant yn anrheithio yn ddibaid, er i'r Cymry roddi mynych godwm iddynt ; yn y diwedd hwy a gyd gyssylltasant a'u gilydd o un fryd , megys arferol, i'w difuddio o'u gwlad a'u rhydd- yd, drwy un distryw cwbl hollawl ; ond y Cymry a ochelasant y dyrnod marwol hwn , drwy gilio i amddiffynfeydd y mynddoedd, megys arferol .