Tudalen:Rhai o Gymry Lerpwl.pdf/17

Gwirwyd y dudalen hon

i wneyd daioni yn ei ddydd. Dymunol yw cael ysgrifennu hanes un fedr gymeryd ei ran yn deilwng wrth lywodraethu amgylchiadau tref fawr.

Y mae yn swyddog eglwysig yng nghapel Bethlem; efe yw y trysorydd, a phena buasai ond am y gwaith hwn yn unig, y mae yr eglwys yn ddyledus iawn iddo ef, ynghyd a'u hysgrifennydd galluog, Mr. Hugh Edwards,—Cymro eto wedi dringo i fyny yn uchel iawn, efe yw prif ysgrifennydd pwyllgorau Corpholaeth y dref. Nid oes angen dweyd fod H. Jones yn fardd; ei enw barddonol yw "Tri­ sant;" ac fel diweddglo ar yr ychydig linellau hyn cyflwynaf y penillion olaf a wnaeth,

NAC OFNA, CRED YN UNIG.

Os yw'r ystorm yn gref yn awr,
A'r dyfroedd yn chwyddedig,
Clyw eiriau dy Waredwr mawr,­
"Nac ofna, cred yn unig."

Dros donnau geirwon bywyd brau,
A'r galon wan grynedig,
Mae ei lywodraeth E'n parhau,
"Nae ofna, cred yn unig."

Pan byddo d'enaid yn tristau,
A'th fron yn brudd siomedig,
Cci ganddo destyn llawenbau,
Nac ofna, cred yn unig.

Pan fyddo'r nos yn dywell iawn,
A thithau yn flinedig,
Mae ynddo nerth a goleu llawn,
"Nac ofna, cred yn unig."

Os ydyw cysgod angau'n ddu,
A'i wedd yn ddychrynedig,
Cei gwmni'r Archoffeiriad mawr,
"Nac ofna, cred yn unig."

Mae Crist yn Frenin ymhob man,
O! Geidwad bendigedig,
Fe'th ddwg o ddyfoder bedd i'r Ian,
"Nac ofna, cred yn unig."