Tudalen:Rhai o Gymry Lerpwl.pdf/7

Gwirwyd y dudalen hon

Ar yr Ysgrythyrau y mae yn sylfaenu ac yn adeiladu ei bregethau nid wyf yn credu yr eiddigedda neb o'i gydweision pe y dywedwn mai efe a'r Parch. Thomas Grey yw yr Ysgrythyrwyr mwyaf a fedd y dref, a dweyd y lleiaf. Nid rhyfedd, gan hynny, iddo roddi yr ateb parod i'r brawd hwnnw oedd a'i fryd ar ddechreu pregethu pan ofynnodd i'r doethawr pa lyfr oedd oreu i'w ddarllen. "Y Beibl" oedd yr ateb diseremoni.

Y mae Dr. Hugh Jones yn un o bregethwyr y Sasiynau, yn un o'r prgethwyr wnaeth Green y Bala mor anfarwol yn hanes ein cenedl ni. Nid anghofiaf byth am y bregeth fawr honno ar y Green tua'r flwyddyn 1875, oddiar y geiriau, "Os creffi ar anwireddau, O Arglwydd pwy a saif." Er nad oeddwn ond rhyw hogyn gyrru'r wedd ar y pryd, ac er fod yno gewri ereill ar y Green yn pregethu y diwrnod hwnnw, dyna yr un a'm dilynodd o hynny hyd yn awr. Clywyd pregeth ryfedd ganddo ar y Marian yn Nolgellau hefyd, lawer blwyddyn yn ol. Ar ddau o'r gloch nawn y Sasiwn oedd. Yr oedd ganddo gynulleidfa ardderchog,—miloedd o bobl, a mil o fynyddoedd Meirion yn sefyll yn gadarn o'u hamgylch. Yr oedd yn orlethol boeth, ac yr oedd y bobl megis yn ddifraw a chaled. Mewn ychydig funudau cafodd y pregethwr afael ynddynt. Peidiodd y siarad ar gyrrau'r dorf arafodd y rhai rodiannai o amgylch, a graddol safasant yn llonydd, fel pe buasai eu traed wedi glynu wrth y Marian. Nid oedd llygad heb fod ar y pregethwr. Yr oedd gwynebau'n gwelwi, gwefusau'n crynnu; a llygaid yn llenwi gan ddagrau. Yr oedd distawrwydd wedi syrthio ar bobpeth. Prin y meiddiai'r Wnion furmur gerllaw. Yr oedd y mynyddoedd yn rhyw dragwyddol ddistaw. Ac yn y distawrwydd hwnnw, ar dorf oedd yn dal ei hanadl wrth wrando, llifai geiriau hyawdl y pregethwr. Pregeth fer oedd, ond teimlad pob enaid oedd ei fod wedi teimlo rhyw ysgydwad rhyfedd dani.

Y mae Mr. Jones yn fab i bregethwr enwog, sef y diweddar Barch. H. Jones, Llanerch y Medd. Dechreuodd y mab bregethu pan yn ieuanc iawn. Eglwysi y Garreg Lefn ac Amlwch oedd y rhai yr ymgymerodd â'u gweinidogaethu gyntaf. Symudodd oddi yno i gymeryd gofal yr eglwys y mae ynddi yn awr, sef Bethlehem, Netherfield Road North. Daeth yma tua'r flwyddyn 1871. Efe a ddaeth yn olynydd i Dr. Owen Thomas, felly gwelwch fod eglwys Bethlehem wedi bod yn ffortunus iawn yn ei dewisiad o bregethwyr mawr.

Erbyn hyn y mae yr eglwys ac yntau yn adwaen eu gilydd yn weddol dda; ynghyd a holl eglwysi y cylch yn y dref yma, a mawrygir ei bregethau gan yr oll wrandawyr, yn arbennig felly y dosbarth mwyaf darllengar a meddylgar. Ar rhai hynny aiff i gwyno gyntaf, os byddant yn methu ei glywed ac hwyrach na waeth imi gyfaddef y gwir, fe fydd ar adegau, ar y dechreu, yn enwedig yn y capeli mwyaf, dipyn yn anhawdd ei glywed i'r rhai pellaf, ac nid ydym wrth ddweyd hyn ond dweyd yr hyn y mae ef ei hun yn wybyddus o hono. Achos mi glywais un hanesyn am dano yn un o eglwysi mwyaf y dref yma. Dywedai y swyddogion wrtho fod y gynulleidfa ym mhen pellaf y capel yn DYMUNO cael ei glywed. Ei atebiad oedd, Hwy a'm clywant cyn y diwedd, debyg gen i." Cofied y darllennydd fod y ffaith fod ei wrandawyr yn dymuno ei glywed yn ei ragymadrodd yn un o'r profion goreu i ddangos ei fawredd, oblegid y mae yn esponiwr di-guro. Gwyddis am rai o'n pregethwyr, pan yn troi o gwmpas eu testyn, na fydd i'r gwrandawr, pe yn methu eu clywed