PENOD VI.
APOSTOL HEDDWCH.
NI bu erioed dangnefeddwr mwy ymladdgar na Mr. Lloyd George. Adeg y rhyfel yn Ne Affrica ymladdodd mor ffyrnig yn erbyn y rhyfel ag yr ymladdai'r Boeriaid yn erbyn y Prydeinwyr. Arddangosodd gymaint dewrder yn Mhrydain ag a wnaeth milwyr Prydain lanau'r Tugela; a gwynebodd angeu mor dawel yn Birmingham a lleoedd eraill yn ei frwydr fawr dros heddwch, ag a wnaeth y milwyr yn Spion Kop a Moder River. Achosodd y rhyfel gagendor mor fawr rhwng dwy adran o'r Blaid Ryddfrydol yn Mhrydain, ag a wnaeth rhwng y Boer a'r Prydeiniwr yn y Transvaal. Achubodd Lloyd George gymeriad Rhyddfrydiaeth yn Mhrydain mor sicr ag yr achubodd Arglwydd Roberts enw byddin Prydain yn Affrica fel y gallu sydd bob amser yn enill yn y pen draw.
Fel arwr Annghydffurfiaeth rhaid oedd i Lloyd George fod hefyd ar y blaen yn taenu egwyddorion heddwch. Cydweithiai Henry Richard, ymneillduwr Cymreig cyntaf Ty'r Cyffredin,[1] yn egniol gydag Edward Miall i bregethu efengyl heddwch ar ol Rhyfel y Crimea, gan enill Ymneillduwyr Cymru yn ymarferol oll i'r un golygiadau ag yntau. Pregethid
- ↑ Nid Henry Richard oedd yr ymneilltuwr Cymreig gyntaf i'w ethol i'r senedd, etholwyd Walter Coffin dros Gaerdydd 14 mlynedd o'i flaen ef ac etholwyd dau Gymro Cymraeg ymneilltuol; David Williams Castell Deudraeth a Richard Davies am y tro cyntaf yn yr un etholiad ag etholwyd Richard gyntaf