Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/110

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pan gofir fod Mr. Chamberlain yn cael ei barchu, ei anwylo, a'i addoli gymaint yn Birmingham ag y perchid, yr anwylid, ac yr addolid Mr. Lloyd George yn Nghymru, gellir deall yn well, er y rhaid i mi barhau i gondemnio, ymosodiad ynfyd mob gwallgof Birmingham ar y torwr delwau a feiddiai fel hyn yn barhaus ddryllio eu delw hwy. Ac, a dweyd y gwir, ni allai na Mr. Lloyd George na Chamberlain daflu careg at y llall am ymddygiadau eu cefnogwyr, canys, er na ellir dal y naill na'r llall yn gyfrifol am weithredoedd eu hetholwyr, eto rhaid cofio fod addolwyr Chamberlain yn Birmingham, ac addolwyr Lloyd George yn Mwrdeisdrefi Arfon, y naill fel y llall, wedi llabyddio y sawl na blygai lin i'w heilun.

Er mai cythrwfl Birmingham brofodd y mwyaf difrifol o'r un, eto cafodd Lloyd George ei erlid mewn cyffelyb fodd yn mron yn mhob dinas yr elai iddi y dyddiau hyny fel Apostol Heddwch, a dyddorol yw sylwi mai'r bobl fwyaf ymladdgar o bawb oedd yn bleidwyr ac yn amddiffynwyr iddo ar ei daith genadol o blaid heddwch. Yn Glasgow, Mr. Keir Hardie, ac yntau yn ymladdwr mor bybyr a Lloyd George, a'i hamddiffynodd rhag ymosodiad y dorf ffyrnig. Yn Bryste, rhaid oedd cael corfflu o Wyddelod a'u ffyn (shilelaghs) yn osgorddlu iddo o'i lety i'r neuadd lle y siaradai, ac yn ol drachefn. Yn Liskeard, yn Nghernyw (Cornwall), er fod gwr mor boblogaidd a'r nofelydd enwog Mr. (yn awr Syr) Quiller Couch ("Q") yn gadeirydd, a Mr. (yn awr Arglwydd) Courtney, yr Aelod Seneddol dros y dref hono, yn cymeryd rhan