yna yn mlaen ag ef ar y cyweirnod hwnw, ac o dipyn i beth yn enill cydymdeimlad y dorf. Ar ddiwedd y cyfarfod yr oedd wedi enill ei hen gyfeillion yn mron oll yn ol. Pan ddaeth dydd y polio, yn lle colli ei sedd fel y tybiai pawb y gwnai, chwyddodd ei fwyafrif ddeg a deugain y cant. Ond er iddo ef enill, colli wnaeth y Rhyddfrydwyr yn yr etholiad hwnw yn y deyrnas.
Mae yn deilwng o sylw fod pobl Prydain mor hyderus wrth ddechreu y Rhyfel yn Ne Affrica ag ydoedd y Caisar wrth ddechreu y Rhyfel yn Ewrop. "Bydd y Rhyfel drosodd yn mhen deufis," ebe Llywodraeth Prydain pan yn dechreu ymosod ar Kruger—ond parhaodd am dair blynedd. "Byddaf fi yn Paris yn orchfygwr yn mhen tri mis," ebe'r Caisar yn Awst, 1914. Ni chyraeddodd yno eto.
Ar ol yr etholiad parhaodd Lloyd George i ymosod ar y Jingoes yn y Ty ac allan o'r Ty. Dyddorol yma. yw adgoffa'r ffaith fod Arglwydd Kitchener wedi cymeradwyo i'r Llywodraeth wneyd heddwch a'r Boeriaid fisoedd lawer cyn iddynt wneyd. Y gwleidyddwyr, ebe Lloyd George, a safent ar y ffordd i orphen y Rhyfel tra'r oedd y Maeslywyddion yn barnu y dylid cael heddwch. Tybia rhai mai felly y bydd eto, ac y ceir Kitchener yn barod i derfynu y Rhyfel yn Ewrop cyn y bydd y gwleidyddwyr yn y Weinyddiaeth o'r hon y mae Lloyd George yn aelod, yn barod i wneyd.
Nodweddiadol iawn oedd ei ymosodiad ar Archesgob Caerefrog, yr hwn yn nghanol y rhyfel, a alwai