Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/115

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am Ddydd o Ymostyngiad Cenedlaethol. Ebe Lloyd George:

"Dywedodd aelod o'r Cabinet yn ddiweddar y mynwn ni enill y Rhyfel hwn ar waethaf pobpeth ar y ddaear isod ac yn y nefoedd uchod. Ond gwel y Llywodraeth erbyn hyn na fedrant orfodi Duw i ildio yn ddiamodol. Felly rhaid i ni gael Dydd o Ymostyngiad—ond eto ymostwng ar amodau yn unig a wnawn. Rhaid i ni agoshau at orseddfainc Duw gan ddweyd: 'Wele ni, yr Ymerodraeth fwyaf ar dy ddaear Di, Ymerodraeth ar yr hon nad yw Dy haul Di byth yn machlud, yn agoshau ger dy fron Di, ac yn ymostwng o'th flaen am ddiwrnod cyfan, ond ar yr amod Dy fod Dithau yn ein cynorthwyo i wneyd ymaith am byth a'r creadur hwn sydd yn ein blino, y Naboth yma, modd y caffom ni fwynhau ei winllan.

"Rhaid oedd wrth Esgob, wrth Archesgob yn wir, i awgrymu y fath gabledd i'r genedl! Yn hytrach na hyn, bydded i ni weddio 'Gwneler Dy ewyllys, ie, yn Affrica fel yn mhob man arall ar y ddaear!'"

Aeth mor bell yn ei wrthwynebiad i'r Rhyfel nes y siaradodd ac y pleidleisiodd yn erbyn y Vote of Supply o ugain miliwn o bunau (20,000,000p.) at ddwyn treuliau Rhyfel De Affrica—costia Rhyfel Ewrop i Brydain yn unig yn awr ddim llai nag ugain miliwn o bunau mewn pedwar diwrnod, neu bum miliwn of bunau'r dydd. Yn yr araeth hono defnyddiodd un frawddeg y cofir am dani yn awr pan fo'r Llywodraeth Ryddfrydol wedi ei chwalu a Cabinet newydd o'r ddwyblaid, y Rhyddfrydwyr a'r Toriaid wedi cymeryd ei lle. Eb efe:

"Fel yn Rhyfel y Crimea ac yn mhob Rhyfel arall, rhaid i'r Cabinet ei hun dalu am fethu. Nid yw hyny yn golygu rhoi y Rhyfel i fyny, ond gall olygu newid y Cabinet, a rhoi siawns i ryw un arall."

Ond pwy rai o'r Cabinet presenol ga dalu ar ol llaw am fethu o honynt achub Serbia nac agor y Dardanels,