Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/119

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD VII.

RHYDDID CYDWYBOD.

ANMHOSIBL yw i'r Cymro Americanaidd na phrofodd, ac na welodd erioed, beth a olyga gormes crefyddol, sylweddoli angerddolrwydd dyhead Ymneillduwyr Cymru am weled rhyddhau yr Eglwys oddiwrth y Wladwriaeth. Yn nyddiau mebyd Lloyd George yr oedd y caethiwed yn galed a blin i'w gyd-grefyddwyr; Eglwys Loegr lywodraethai yn mhob cylch, er mai Ymneillduwyr oedd corff mawr y werin. Eglwyswyr oedd y perchenogion tir, y meistri gwaith, yr ynadon ar y fainc, swyddogion y llywodraeth, yn ymarferol pawb oedd mewn awdurdod. Yr oedd y ffaith fod dyn yn Ymneillduwr yn ddigon i'w gau allan o bob swydd o anrhydedd, o elw, ac o awdurdod. Plygai aml un ei ben yn nhy Rimmon, er mwyn ei le neu ei swydd, pan oedd ei galon gyda'i deulu yn addoli Duw yn y capel bach diaddurn.

Aeth Lloyd George i Senedd Prydain a'i galon yn llawn gobaith a gwroldeb, ac o dan yr ymdeimlad fod buddianau ei wlad yn gorphwys ar ei ysgwyddau. Ymddiriedwyd iddo genadwri mor bendant a digamsyniol ag a roddwyd erioed i unrhyw un o broffwydi yr Hen Destament; ac mor ddiameuol a hyny magwyd