"Mae'r Sgweier a'r Offeiriad wedi tori clawr Blwch y Tlodion, wedi lladrata'r cynwys, a rhanu'r arian rhyng- ddynt. Mae 'Tammany Ring' y Landlordiaid a'r Offeiriaid yn rhanu gweddillion olaf yr arian cydrhyngddynt."
Yr oedd ei holl gysylltiadau, ac am hyny ei holl gydymdeimlad ef, a'r bobl y credai ef oedd yn cael eu gormesu; y gormesedig oedd ei gydwladwyr a'i gydgrefyddwyr; y gormeswyr oeddent ei elynion ef fel yr eiddynt hwythau. O'i gryd i fyny dysgwyd ef i weled perygl i'r werin yn nghysylltiad anachaidd yr Eglwys a'r Wladwriaeth. I'w ddychymyg byw ef pan yn blentyn, y gweinidog Ymneillduol oedd "Mawrgalon" Bunyan; pregethai'r dewrddyn hwn o'r pwlpud hawliau dyn a rhyddid cydwybod, ac ar y llwyfan ac ar ddydd y polio, ymladdai'r pregethwr gyda'i bobl i enill y pethau hyn iddynt.
Anhawdd yn wir yw i'r neb na aned o honynt, neu na fu byw yn eu plith ac na bu drws cysegr eu meddyliau mwyaf dirgel yn agored iddynt, sylweddoli yr hyn a olyga Dadgysylltiad i'r cenedlaetholwr Cymreig, ac nid Ymneillduwyr hwynt oll. Ceir cenedlaetholwyr Eglwysig, deiliaid ffyddlon Eglwys Loegr yn Nghymru, filoedd o honynt yn dyheu am Ddadgysylltiad er mwyn rhyddhau "Hen Eglwys y Cymry" o'r rhwymau a'r rhai y delir hi yn gaeth gan olynydd Awstin Fynach. Cred yr eglwyswr Cymreig a fo hefyd yn Genedlaetholwr, y dadblygai'r Eglwys i fod eto fel cynt, yn "Eglwys y Genedl" pe y rhyddheid hi o hualau y Llywodraeth, pe y caffai ddewis ei hoffeiriaid a'i hesgobion ei hun, a dadblygu mewn cydymdeimlad