a gwerin Cymru. Credant yn wir pe ceid hyny, y "deuai y gwenyn yn ol i'r hen gwch," y peidiai enwadaeth a bod yn Nghymru, ond y byddai yno yn llythyrenol "un gorlan ac un bugail."
Eithr golyga Dadgysylltiad fwy o lawer na hyn i'r Ymneillduwr. Iddo ef golyga dori iau caethiwed y canrifoedd; dileu anfanteision dinasyddol; sylweddoli gobeithion cenedlaethau; tori i lawr pob clawdd terfyn cymdeithasol yn nglyn a chrefydd; cydnabod hawl cyfartal pob dinesydd i fwynhau breintiau cyfartal mewn byd ac eglwys.
Yntau, Lloyd George, a aned o'r bobl hyn; bu byw fel hwythau; cafodd ei demtio yr un ffunud a hwythau; cydgyfranogodd o'u treialon; dyoddefodd eu holl anfanteision mewn addysg, mewn bywyd cymdeithasol, mewn gobaith enill swydd, mewn sarhad a dirmyg crefyddol, mewn pob peth. Pa ryfedd felly iddo ddadblygu mor foreu yn Ddadgysylltwr mor aiddgar, a bod gwleidyddiaeth a chrefydd wedi eu cydblethu yn anatodadwy yn ei feddwl a'i galon?
Pe y gelwid arno ef, neu unrhyw Ymneillduwyr egwyddorol arall, i ddeffinio ei safle ar y cwestiwn mawr o ryddid cydwybod, hyn a fyddai mewn byr eiriau:
"Nid oes gan y Wladwriaeth, fel y cyfryw, hawl of gwbl i ymyryd mewn modd yn y byd a golygiadau crefyddol neb pwy bynag, lle na bo'r golygiadau hyny yn golygu hefyd berygl i'r Wladwriaeth ei hun. Nid yw felly yn ddyledswydd ar y Wladwriaeth, ac nid oes ganddi hawl i ddysgu crefydd, nac i ddangos ffafr i