GAIR AT GYMRY'R AMERICA.
PAN yn cyflwyno "Rhamant Bywyd Lloyd George" i'w gyd-wladwyr yn yr Unol Dalaethau, gweddus yw i'r awdwr roi gair o eglurhad paham y ceisia ddwyn gwron Cymru i sylw ei gefndryd yr ochr draw i'r Werydd, a phaham yr anturia'r awdwr yntau eu hanerch. Am y cyntaf o'r ddau, nid oes angen ymddiheurad o gwbl. Hyd yn nod pe na bae Mr. Lloyd George yn ddim ond Cymro enwog, yn ddim ond gwr i "Gymru fechan dlawd," buasai rhaid i galon fawr "Cymry yr America" gynesu tuag ato. Canys mae pob gwir Gymro yn yr Unol Dalaethau, yn ogystal a'i frawd yn Nghymru, yn medru canu o'i galon "Mae Hen Wlad fy Nhadau yn anwyl i mi." Gan nad i ba le bynag yr elo, ac yn mha un o bedwar ban byd y bo ei breswyl.
"Mae calon Cymro fel y trai
Yn siwr o ddod yn ol"
i'r hen "Ynys Wen," i "Baradwys y Bardd," i wlad Llewelyn ac Owain Glyndwr, ac i'r fro o'r hon y daeth ei dadau yntau.
Ond heblaw hyny, mae Mr. Lloyd George erbyn heddyw wedi tyfu i fod yn fwy na dyn cenedl, yn fwy hyd yn nod na dyn Ymerodraeth. Rywsut mae cenedloedd rhydd y byd megys yn hawlio rhan yn Lloyd George fel arwr gwerin, ac nid fel dyn lle. O'r werin y cododd, y werin a'i carodd a gerir ganddo yntau. Ac yn sicr yn ngweriniaeth fawr America, ac yn enwedig i'r rhan hono o'i dinasyddion a hanant o'r un gwaed Cymreig ag yntau, rhaid fod enw a gweithred-