Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/150

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sylw a dalent iddo, a lle isel a gaffai ar raglen cyfarfodydd yn y rhai y cymerai efe a hwythau ran. Pa safle bynag a enillodd efe wedi hyny, anrhaith yw a enillwyd gan ei fwa a'i waewffon ef ei hun, yn nghyd a'r ffaith fod gwerin gwlad Gwalia o'r tu cefn iddo. Dangosasant hwy eu cydymdeimlad a'i dlodi ef, a'u hedmygedd. o'i gymwysderau ef, drwy danysgrifio dro ar ol tro at dreuliau ei etholiadau. Ni bu traul un etholiad iddo yn llai, dyweder, na phum cant o bunau; codai weithiau lawer yn uwch. Ni fedrai efe fforddio talu hyny o arian, ond daeth ei etholwyr yn mlaen gan gymeryd y baich oddi ar ei ysgwyddau. Felly yr aeth i'r Senedd. dro ar ol tro.

Fel y gwelwyd ni chafodd fanteision na choleg na Phrif Ysgol—dim ond ysgol fach y pentref, a'r Ysgol Sul a'r Gymdeithas Lenyddol, a'r dadleuon o nos i nos yn shop y crydd ac yn efail y gof. Ond erbyn hyn mae ganddo hawl i wisgo gown y Doctoriaid uchaf yn Mhrifysgol Rhydychain ac yn Mhrifysgol Cymru. Gosododd y ddwy arno yr anrhydedd o fod yn "D. C. L." Wrth gyflwyno'r teitl hwn iddo yn Rhydychain, desgrifiai'r areithiwr cyhoeddus ar ran y Brif Ysgol hynaf yn y byd[1] ef fel:

"Gwr llawn o yni, wedi ei ysbrydoli gan ddawn danbaid, a'r hwn a ddanfonwyd gan Gymru fechan ddewr i lenwi swydd o awdurdod eang."

Pan yn fachgenyn arferai edrych gydag arswyd ar furiau uchel, cryf, Castell Caernarfon. Pan ddaeth i ddeall ystyr hanes, arferai gyfeirio ei fys at y Castell cadarn fel prawf na fedrai gallu estronol, boed gryfed

  1. Prifysgol Bologna yw'r Brifysgol hynaf yn y byd